← LEADERSHIP TERMINAL

UK PARLIAMENT · FORMER

Mabon ap Gwynfor

Constituency Member · Plaid Cymru · Wales

IN THEIR OWN WORDS

Dwi’n meddwl wrth fy mod i’n mynd yn ddyddiol draw i’r Bala ac yn cerdded y stryd fawr yn y Bala, a gweld y busnesau yna, am bwysigrwydd y busnesau yna i’r economi dwi’n cyfrannu ato. Yr hyn sydd yn bwysig ei ystyried wrth ein bod ni’n trafod y busnesau bach yma ydy’r ffaith nad ydyn nhw’n bodoli er mwyn gwneud elw mawr.

PLENARY OF 27/11/2024 · 2024-11-27 · READ THE OFFICIAL REPORT

Diolch am yr ateb yna, Ysgrifennydd y Cabinet. Mi oeddech chi'n sôn am y datblygiadau technolegol cyffrous yma. Wrth gwrs, un o’r nodweddion mwyaf trawiadol am yr uwch gynhadledd roeddwn i ynddi oedd pa mor bell y mae nifer o’r gwledydd yma o’n blaenau ni pan fo'n dod at ddatblygiadau technolegol, megis digideiddio gofal iechyd.

PLENARY OF 27/11/2024 · 2024-11-27 · READ THE OFFICIAL REPORT

It is with regret that we note the withdrawal of this Bill, especially for the reasons listed by the Member. While the substance of the Bill didn't, in our view, necessarily go far enough in some areas, it was, nevertheless, a significant step forward in addressing some of the serious deficiencies in the current legislative framework rela…

PLENARY OF 27/11/2024 · 2024-11-27 · READ THE OFFICIAL REPORT

Rydym ni yma yng Nghymru wedi gweld llawer gormod o’r traddodiad yna o bres yn cael ei echdynnu allan o’r economi wledig, allan o’r economi leol, arian sydd yn mynd er budd pobl eraill, nid er budd ein cymunedau ni.

PLENARY OF 27/11/2024 · 2024-11-27 · READ THE OFFICIAL REPORT

Well, reforming the digital and data infrastructure to improve outcomes for cancer patients is, of course, only a part of the solution. We need the workforce to match. The precariousness of the oncology workforce has long been a matter of concern in this respect.

PLENARY OF 27/11/2024 · 2024-11-27 · READ THE OFFICIAL REPORT

Mae rheoli ymwrthedd gwrthficrobaidd hefyd yn hanfodol er mwyn cadw gweithdrefnau iechyd arferol fel llawdriniaethau, triniaethau canser a thrawsblaniadau organau, sydd i gyd yn dibynnu ar wrthfiotigau effeithiol er mwyn atal heintiau. Rhaid cofio hefyd fod gwrthfiotigau yn hanfodol ar gyfer cynhyrchu bwyd ac amaethyddiaeth.

PLENARY OF 27/11/2024 · 2024-11-27 · READ THE OFFICIAL REPORT

The complete record

Every one of 43 lines we hold for Mabon ap Gwynfor, in date order, each linked to its source. Free to read, in full, without an account.

  1. In my constituency, we don't have coal tips, as you probably know, but we've got a lot of slate tips. What sort of assessment have you made of the safety of slate tips, and if there's a case where we find some issues in Ffestiniog, say, or other places, would that money be made available for communities with slate tips?

    PLENARY OF 27/11/2024 · 2024-11-27 · READ THE OFFICIAL REPORT

  2. Rydym ni yma yng Nghymru wedi gweld llawer gormod o’r traddodiad yna o bres yn cael ei echdynnu allan o’r economi wledig, allan o’r economi leol, arian sydd yn mynd er budd pobl eraill, nid er budd ein cymunedau ni. Ond mae'r busnesau bach lleol rydyn ni'n sôn amdanynt yma heddiw yn sicrhau bod y bunt yna'n cael ei gloi yn yr economi leol. Felly, rydyn ni wedi bod yn aros rhy hir am gynllun er mwyn cefnogi ein busnesau lleol ni; dyma'r amser, rŵan, er mwyn sicrhau bod yr economi leol yn cael ei gefnogi, bod busnesau lleol yn cael eu cefnogi, i ni weld y Llywodraeth yma yng Nghymru yn sicrhau eu bod nhw'n rhoi'r gefnogaeth angenrheidiol i'n busnesau. Dyna pam dwi am gefnogi'r cynnig yma ac yn croesawu'r cynnig yma gan y Ceidwadwyr heno. Diolch yn fawr iawn ichi.

    PLENARY OF 27/11/2024 · 2024-11-27 · READ THE OFFICIAL REPORT

  3. Os ewch chi i rywle fel Blaenau Ffestiniog a gweld y busnesau sydd yn Blaenau Ffestiniog, mentrau cydweithredol sydd wedi dod at ei gilydd, ac yn sicrhau bod pobl yn cael y gwasanaethau angenrheidiol yna ac yn cael yr hyn sydd yn hanfodol iddyn nhw yn ardal Blaenau Ffestiniog, mae hynny'n gwbl greiddiol er mwyn sicrhau bod y dref honno'n parhau i’r dyfodol. Pan fyddwn ni’n sôn wedyn am y ffaith nad miliwnyddion ydy’r cwmnïau yma, mae'n bwysig i ni ystyried yr elfen yna eu bod nhw’n cloi'r bunt yna’n lleol. Mae’r arian yna sydd yn cael ei greu, ac y maen nhw’n ei ddefnyddio yn y busnesau yna, yn bres sydd yn cylchdroi yn economi’r cymunedau yna.

    PLENARY OF 27/11/2024 · 2024-11-27 · READ THE OFFICIAL REPORT

  4. Felly, maen nhw’n darparu gwasanaeth sydd yn andros o bwysig i bobl sydd yn fregus, i bobl sydd yn oedrannus, ac i bobl sydd yn byw mewn lleoedd diarffordd. Ac yn sôn am yr elfen yna o’r ffaith eu bod nhw’n darparu gwasanaeth, mae yna ran fawr o’r busnesau bach sydd gennym ni yn Nwyfor Meirionnydd yn fentrau cymunedol, yn fentrau sydd yn bodoli er mwyn sicrhau bod pobl yn cydweithio efo’i gilydd. Mae’n rhan o’n traddodiad ni yma yng Nghymru i sicrhau bod pobl yn cydweithio efo’i gilydd er lles cymuned.

    PLENARY OF 27/11/2024 · 2024-11-27 · READ THE OFFICIAL REPORT

  5. Dwi’n meddwl wrth fy mod i’n mynd yn ddyddiol draw i’r Bala ac yn cerdded y stryd fawr yn y Bala, a gweld y busnesau yna, am bwysigrwydd y busnesau yna i’r economi dwi’n cyfrannu ato. Yr hyn sydd yn bwysig ei ystyried wrth ein bod ni’n trafod y busnesau bach yma ydy’r ffaith nad ydyn nhw’n bodoli er mwyn gwneud elw mawr. Nid busnesau sy’n gwneud miliynau o bunnoedd ydyn nhw, ond busnesau sydd yn bodoli er mwyn darparu gwasanaeth, gwasanaeth sydd yn bwysig i’r bobl. Os ystyriwch chi ein cymunedau gwledig ni, yn amlach na pheidio, mae pobl yn gorfod teithio ymhell er mwyn derbyn llawer o’u gwasanaethau, er mwyn mynd i siopa a chael yr hyn sy’n elfennol. Ond heb y siopau bach yna’n lleol ar ein stryd fawr ni yn ein cymunedau gwledig ni, yn y trefi bach yma, yna mi fuasai pobl yn gorfod teithio ymhellach.

    PLENARY OF 27/11/2024 · 2024-11-27 · READ THE OFFICIAL REPORT

  6. Doeddwn i ddim yn bwriadu siarad tan fy mod i wedi meddwl am y busnesau bach sydd yn fy etholaeth i, a pa mor bwysig ydyn nhw, mewn gwirionedd, i economi Dwyfor a Meirionnydd. Mewn gwirionedd, rydym ni wedi clywed y term yma yn cael ei ddweud sawl gwaith yn barod, sef y ffaith bod y busnesau bach yma yn asgwrn cefn i’n heconomi, ac mae hynny’n berffaith wir; os ydw i’n cerdded y stryd fawr ym Mhorthmadog, dwi’n gweld y busnesau bach yma sydd yn rhan o wead cymuned Porthmadog, yn rhan o wead y gymdeithas, ac maen nhw felly yn rhan o’r economi sydd yn gwbl greiddiol, yn cyflogi pobl sydd wedi dewis aros yn lleol, sydd wedi dewis byw yn lleol, ac felly yn rhan bwysig o'r economi yna.

    PLENARY OF 27/11/2024 · 2024-11-27 · READ THE OFFICIAL REPORT

  7. Just on that point about taxpayers’ money, I accept that, but that taxpayers’ money, part of it is the money that we raise here in Wales, and as I mentioned earlier, the fact that we don’t get what we pay back from the Barnett formula means that we’re not going the money that we deserve, which is ours. So, do you not accept that we need to see a reform of the Barnett formula so that we have a Government that can support small businesses in Wales properly with the money that they need?

    PLENARY OF 27/11/2024 · 2024-11-27 · READ THE OFFICIAL REPORT

  8. Dwi'n derbyn yr hyn rwyt ti'n ddweud, fod chwyddiant yn is ond yn tyfu ar hyn o bryd, ond wyt ti ddim yn derbyn bod y Ceidwadwyr a rheolaeth y Ceidwadwyr yn y Llywodraeth ddiwethaf wedi arwain at chwyddiant o tua 10 y cant, 15 y cant yn y sector rŷn ni'n sôn amdano, ac felly bod lot o'r problemau mae'r busnesau bach yn eu hwynebu heddiw o ganlyniad i Lywodraeth San Steffan oedd dan reolaeth y Ceidwadwyr?

    PLENARY OF 27/11/2024 · 2024-11-27 · READ THE OFFICIAL REPORT

  9. Thank you for those points. First of all, do you not accept that this tax will not raise that much money, ultimately? The money that is raised from Wales, because of the poor settlement that we have with the Barnett formula, Wales won't necessarily see our share of those tax funds come back to Wales. And your party has championed Dan Neidle in the past, a tax expert—he's changed his mind and said that this will actually damage family farms. Do you accept those points?

    PLENARY OF 27/11/2024 · 2024-11-27 · READ THE OFFICIAL REPORT

  10. Does the Minister also recognise the important role that third sector organisations have for the implementation side, and, as such, has the Minister been raising the widespread concerns from mental health charities as to the impact of the rise in NICs on their work in the course of these discussions?

    PLENARY OF 27/11/2024 · 2024-11-27 · READ THE OFFICIAL REPORT

  11. Turning to the proposed changes to the UK Mental Health Act, we all know where the faults lie, particularly in terms of access for young people, the disproportionate prevalence of detentions amongst ethnic minority communities, and the lack of agency afforded to patients on their treatment. So, I’d be grateful if the Cabinet Secretary could explain or provide an update to us in the Senedd on what conversations she’s been having with UK Government colleagues on the likely timescales for amending the Act—or the Minister, I should say, rather than Cabinet Secretary; I'm giving her a promotion there.

    PLENARY OF 27/11/2024 · 2024-11-27 · READ THE OFFICIAL REPORT

  12. James has been a constant champion for mental health since first entering this Chamber, and I have had discussions with him around this proposed Bill. I mention this, rather, to highlight the broader issue of how this place too often falls short in living up to the promises of devolution to provide creative and radical solutions for the people of Wales. It shouldn’t be the height of our ambition here to simply wait for Westminster to lead, and I really do think that we collectively as a Senedd could have been far more proactive and ambitious in pushing the boundaries for mental health reform in lieu of years of inaction from successive UK Governments.

    PLENARY OF 27/11/2024 · 2024-11-27 · READ THE OFFICIAL REPORT

  13. It is with regret that we note the withdrawal of this Bill, especially for the reasons listed by the Member. While the substance of the Bill didn't, in our view, necessarily go far enough in some areas, it was, nevertheless, a significant step forward in addressing some of the serious deficiencies in the current legislative framework relating to mental health standards. But we are now faced with the familiar prospect of a devolved area of responsibility being effectively outsourced for Westminster to sort out. I mention this not to pass judgment on the Member himself. Indeed, I commend James for having brought this important Bill to the floor of the Senedd in the first place, and I know how passionately he has been advocating for improvements in mental health provision.

    PLENARY OF 27/11/2024 · 2024-11-27 · READ THE OFFICIAL REPORT

  14. Ac yn olaf, o fewn Cymru, dwi'n annog y Llywodraeth a’r gwasanaeth iechyd i ganmol gwaith caled ac arweiniad y tua 30 o fferyllwyr gwrthficrobaidd arbenigol sy’n gweithio ledled y wlad. Maen nhw'n gweithio’n ddiflino er mwyn codi ymwybyddiaeth o’r bygythiad hwn a sicrhau ein bod yn gwneud y defnydd mwyaf effeithiol o wrthfiotigau, gan gadw eu heffeithiolrwydd ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

    PLENARY OF 27/11/2024 · 2024-11-27 · READ THE OFFICIAL REPORT

  15. Mae rheoli ymwrthedd gwrthficrobaidd hefyd yn hanfodol er mwyn cadw gweithdrefnau iechyd arferol fel llawdriniaethau, triniaethau canser a thrawsblaniadau organau, sydd i gyd yn dibynnu ar wrthfiotigau effeithiol er mwyn atal heintiau. Rhaid cofio hefyd fod gwrthfiotigau yn hanfodol ar gyfer cynhyrchu bwyd ac amaethyddiaeth. Os daw'r gwrthfiotigau yna'n aneffeithiol, gallai hefyd fygwth y gadwyn cyflenwi bwyd byd-eang. Wrth gwrs, mae brwydro yn erbyn ymwrthedd gwrthficrobaidd yn gofyn am ymdrech fyd-eang, ond rwy’n gobeithio y gallwn ni fel Senedd gytuno ei bod yn bwysig bod Cymru’n chwarae ei rhan drwy gydweithio’n rhyngwladol i ddatblygu cyffuriau newydd a hyrwyddo defnydd cyfrifol o wrthfiotigau.

    PLENARY OF 27/11/2024 · 2024-11-27 · READ THE OFFICIAL REPORT

  16. Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Yr wythnos diwethaf oedd Wythnos Ymwybyddiaeth o Ymwrthedd Gwrthficrobaidd y Byd. Mae Sefydliad Iechyd y Byd wedi disgrifio ymwrthedd gwrthficrobaidd fel un o'r bygythiadau mwyaf sy'n wynebu dynoliaeth yn yr unfed ganrif ar hugain. Mae angen mynd i’r afael ag ymwrthedd gwrthficrobaidd am sawl rheswm. Yn gyntaf ac yn bennaf, mae gwrthfiotigau yn achub bywydau. Mewn byd ôl-wrthfiotig, gallai hyd yn oed mân heintiau fel heintiau croen ac wrin arwain at fynd i'r ysbyty neu hyd yn oed farwolaeth. Drwy frwydro yn erbyn ymwrthedd gwrthficrobaidd, byddwn yn sicrhau dyfodol hirdymor y triniaethau meddygol hanfodol hyn.

    PLENARY OF 27/11/2024 · 2024-11-27 · READ THE OFFICIAL REPORT

  17. Does the Welsh Government have a strategy for securing the future integrity of the clinical oncology workforce beyond simply hiring more locum staff, which, as the RCR report clearly states, is not cost-effective and compromises the long-term stability of the service?

    PLENARY OF 27/11/2024 · 2024-11-27 · READ THE OFFICIAL REPORT

  18. Well, reforming the digital and data infrastructure to improve outcomes for cancer patients is, of course, only a part of the solution. We need the workforce to match. The precariousness of the oncology workforce has long been a matter of concern in this respect. The shortfall in clinical oncologists is expected to rise to 28 per cent by 2028, with this shortage resulting in all observed cancer centres in Wales reporting treatment delays. And much like our GP services, or nursing, we’re overly dependent on locum recruitment of clinical oncologists. Indeed, the Royal College of Radiologists report shows that 19 per cent of Wales’s oncology staff are classified as locum staff, compared to 9 per cent in England, and 5 per cent in Scotland.

    PLENARY OF 27/11/2024 · 2024-11-27 · READ THE OFFICIAL REPORT

  19. Yma, mae gennym ni recordiau papur anghyson a hen dechnoleg analog, fel ffacs, yn cael eu defnyddio, ac mae’r gweithlu yn gyson yn cwyno nad ydy casglu data yn addas i bwrpas. Felly, ydy’r Ysgrifennydd Cabinet yn medru ateb pam nad ydy Cymru wedi manteisio ar ei statws fel cenedl fach a datblygu arbenigedd ar ddigideiddio iechyd? Beth ydy’r clwydi sy’n atal hyn rhag digwydd, ac ydy’r Llywodraeth, felly, yn ystyried digideiddio yn flaenoriaeth?

    PLENARY OF 27/11/2024 · 2024-11-27 · READ THE OFFICIAL REPORT

  20. Diolch am yr ateb yna, Ysgrifennydd y Cabinet. Mi oeddech chi'n sôn am y datblygiadau technolegol cyffrous yma. Wrth gwrs, un o’r nodweddion mwyaf trawiadol am yr uwch gynhadledd roeddwn i ynddi oedd pa mor bell y mae nifer o’r gwledydd yma o’n blaenau ni pan fo'n dod at ddatblygiadau technolegol, megis digideiddio gofal iechyd. Mae’r Ffindir, er enghraifft, wedi bod yn digideiddio data ar gleifion canser ers yr 1970au, ac roedd straeon tebyg am gamau breision yn cael eu gwneud yn Slofenia ac yn Estonia. Mae’r gwledydd yma yn rhannu un peth yn gyffredin, sef eu maint. Maen nhw’n wledydd bach, ac mi ydym ni'n clywed yn gyson am sut mae gan wledydd bach fantais pan fo'n dod at weithredu datrysiadau digidol yng ngofal iechyd. Ond mae’n ymddangos bod Cymru yn eithriad i’r rheol hon.

    PLENARY OF 27/11/2024 · 2024-11-27 · READ THE OFFICIAL REPORT

  21. Ond gyda bod ystadegau perfformiad diweddaraf yr NHS yn dangos nad ydy bron i hanner cleifion canser Cymru yn derbyn y driniaeth angenrheidiol o fewn yr amser dynodedig, a chyfraddau goroesi cyflyrau fel canser yr iau, pancreatig, y stumog ac eraill ymhlith y gwaethaf yn y byd datblygedig, pryd ydym ni am gyrraedd y pwynt ble mae’r rhethreg a’r disgwyliadau yn cyd-fynd â’r canlyniadau?

    PLENARY OF 27/11/2024 · 2024-11-27 · READ THE OFFICIAL REPORT

  22. Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Wel, Ysgrifennydd y Cabinet, ces i'r fraint o fynychu uwch-gynhadledd canser y Sefydliad Canser Ewropeaidd yr wythnos diwethaf, ac roedd hi’n drawiadol pa mor ddatblygedig oedd nifer o’n cymdogion Ewropeaidd pan fo’n dod at ddiagnosis, triniaeth a byw’n dda gyda chanser. Mae datganiad ansawdd ar gyfer canser y Llywodraeth yma yn un uchelgeisiol, gan bwysleisio diagnosis cynnar, cyfeirio at driniaeth, a sicrhau bod cynllunio’r gweithlu yn alinio i alwadau'r dyfodol ac ymagwedd sy'n canolbwyntio ar y claf.

    PLENARY OF 27/11/2024 · 2024-11-27 · READ THE OFFICIAL REPORT

  23. Ond dydy'r diagnosis hwnnw ddim yn llawn, gan i'r Ysgrifennydd Cabinet fethu â sôn am pam fod y cleifion yn methu mynd allan o'r ysbyty yn ôl i'r gymuned, sef methiannau i fynd i'r afael â'r problemau dybryd yn ein gwasanaeth gofal. Felly, mae'n ymddangos fod yr Ysgrifennydd Cabinet yn edrych i newid trefniadau'r gwasanaeth ambiwlans oherwydd y methiant llywodraethiant yma, a methiant y Llywodraeth hefyd i fynd i'r afael â'r materion yma, sydd mewn gwirionedd y tu hwnt i reolaeth y gwasanaeth ambiwlans. Felly, pryd ydyn ni am gael datganiad ynghylch y camau sydd am gael eu cymryd er mwyn mynd i'r afael â'r problemau creiddiol yma yn y gwasanaeth gofal?

    PLENARY OF 26/11/2024 · 2024-11-26 · READ THE OFFICIAL REPORT

  24. Diolch am y datganiad. Dwi'n croesawu'r cyfle i drafod y datganiad yma yn y Siambr heddiw, a diolch hefyd am y sesiwn friffio defnyddiol iawn a gafwyd yn gynharach heddiw. Wrth gwrs, dwi'n deall mai'r bwriad yn y pen draw ydy adolygu, o bosib, targedau'r ambiwlansys, i weld a ydy'r targedau yna yn addas i bwrpas. Yng ngoleuni'r argyfyngau niferus sydd yn wynebu'r gwasanaeth iechyd, mae hyn yn gwneud synnwyr—ar yr wyneb. Mae'n amlwg bod yr Ysgrifennydd Cabinet wedi adnabod y broblem, o leiaf yn rhannol, ac mae o wedi ei osod allan yn glir yn y datganiad a glywson ni ynghynt, pan soniodd ei fod am ffocysu ar wella y llif drwy'r ysbyty.

    PLENARY OF 26/11/2024 · 2024-11-26 · READ THE OFFICIAL REPORT

  25. Rŵan, a ninnau ym mis Tachwedd, y datrysiad ydy cynyddu'r £28 miliwn yna i £50 miliwn. Tybed beth fydd y datganiad yn y mis nesaf.

    PLENARY OF 19/11/2024 · 2024-11-19 · READ THE OFFICIAL REPORT

  26. Wrth gwrs, rydym ni'n croesawu unrhyw gamau sydd yn cael eu cymryd, unrhyw arian ychwanegol sydd yn cael ei roi er mwyn mynd i'r afael â'r rhestrau aros. Mae'n dda clywed bod yr Ysgrifennydd Cabinet yma'n dweud bod torri'r rhestrau aros yn flaenoriaeth, fel, yn wir, yr oedd o i'w ragflaenydd a'i rhagflaenydd hithau ac i bob Ysgrifennydd Cabinet neu Weinidog iechyd. Mae yna gyd-destun, wrth gwrs, i hyn. Mae hyn yn cael ei gyhoeddi yn erbyn cefnlen o dargedau cael gwared â rhestrau aros dwy flynedd wedi cael eu methu'n llwyr—y rhestrau aros hiraf erioed, efo un o bob pump o bobl Cymru bellach ar restr aros. Ac mae hefyd yn ddifyr nodi, nôl ym mis Medi, mai'r datrysiad bryd hynny oedd cynnig triniaethau yn Lloegr. Erbyn mis Hydref, y datrysiad oedd talu £28 miliwn i fynd i'r afael â rhestrau aros.

    PLENARY OF 19/11/2024 · 2024-11-19 · READ THE OFFICIAL REPORT

  27. Ond mae gennym ni dueddiad i gredu bod ein hardaloedd gwledig yng Nghymru yn eithriad i droseddau erchyll fel hyn, gan feddwl bod camdriniaeth a phroblemau o’r fath yn gyfyngedig i ardaloedd trefol yn unig. Ond mae’r dystiolaeth yn dangos yn wahanol. Mae cyfraddau camdrin domestig yng ngogledd Cymru yn uwch nag yn ninas Llundain. Mae gogledd Cymru, hyd yn oed, yn wynebu’r un lefel o droseddau rhywiol ag y mae Greater Manchester yn ei wneud, sydd â phoblogaeth bum gwaith maint gogledd Cymru. Dwi am rannau stori fach gyda chi heddiw. Dwi wedi cael caniatâd merch arbennig iawn, sydd wedi bod yn rhan o’m mywyd i ers rhyw dair blynedd erbyn hyn. A hi sydd wedi cyflyru'r cyflwyniad yma heddiw. Felly, dyma ychydig funudau o eiriau'r ferch yma cyn fy mod yn mynd ymlaen i weddill fy nghyfraniad.

    PLENARY OF 13/11/2024 · 2024-11-13 · READ THE OFFICIAL REPORT

  28. Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Dwi wedi rhoi, neu'n cynnig rhoi, o leiaf, munud o fy amser i Joyce Watson a Sioned Williams, a diolch iddyn nhw am gymryd diddordeb yn y ddadl yma. Mae cartref i fod yn le hapus—aelwyd gyda sŵn chwerthin ac arogl bwyd yn y popty yn llonni’r ffroenau. Ond i ormod o bobl, mae’r cartref yn hunllef byw, ble mae sŵn allwedd yn troi yn y drws yn destun ofn. I eraill, mae cartref hefyd yn hafan ddiogel rhag yr ofn sy’n codi wrth orfod brysio adref, gan obeithio nad yw’r camau sy’n atseinio y tu ôl yn dod yn agosach. Mae achos erchyll Sarah Everard wedi gadael clwyf ar ein cydwybod, ac mae’r bygythiad yna yn parhau i fod yn llawer rhy gyffredin i bobl heddiw.

    PLENARY OF 13/11/2024 · 2024-11-13 · READ THE OFFICIAL REPORT

  29. I'm chuffed for the people that you represent that you've got new trains, but, in my area, we've seen trains being cut, and we've seen bus journeys cut. That's the record of the first 100 days; that's the record of this Labour Government. Is that something you're proud of?

    PLENARY OF 13/11/2024 · 2024-11-13 · READ THE OFFICIAL REPORT

  30. So, I’d like to finish with a very simple question to the Cabinet Secretary: in September 2024, the latest reporting date, there were 1,596 delayed hospital discharges across Wales; what figure does he expect to see at the end of the 50-day challenge period?

    PLENARY OF 13/11/2024 · 2024-11-13 · READ THE OFFICIAL REPORT

  31. It’s worth referencing the NHS Confederation's verdict in this respect: 'Unless the broader challenges of demand and capacity across the whole health and care system are addressed, a 50-day challenge and action plan won’t be enough to achieve a sustainable health and care system in the long term.' I share the NHS Confederation’s understandable scepticism at the potential of this plan to deliver in isolation. Does the Cabinet Secretary agree with the NHS Confederation’s analysis? Finally, as we’ve mentioned so often in relation to Welsh Government plans, there is a conspicuous absence of targets.

    PLENARY OF 13/11/2024 · 2024-11-13 · READ THE OFFICIAL REPORT

  32. I welcome the fact that the Government has belatedly recognised the need for a fresh approach to the long-standing problem of delayed hospital discharges, but I do worry that the substance of the plan leaves a lot to be desired. Firstly, it’s clear that it will largely be underpinned by existing rather than new resources. The regional integration fund, for example, was put in place back in April 2022, with the specific aim of better integrating health and social care. So, this begs the question: if it hasn’t been effective over the past two years, why should we expect different results now? Secondly, it’s difficult to see where this fits in with Labour Government’s propensity for short-term sticking-plaster solutions, at the expense of a coherent overarching vision for transforming the NHS.

    PLENARY OF 13/11/2024 · 2024-11-13 · READ THE OFFICIAL REPORT

  33. Yn ail, os caf i ddilyn ymlaen o'r cwestiwn ddaru iddo gael ei ofyn yn gynharach ar linell trên Calon Cymru, mae'r un fath yn wir efo llinell trên y Cambrian, lle mae yna doriadau'n mynd i fod ar y llinell yna sydd yn mynd i effeithio ar allu pobl i fynd i'w lle gwaith nhw. Mi ydw i wedi derbyn dwsinau o e-byst gan bobl sydd yn defnyddio'r trên yna i fynd i'w gwaith, ac maen nhw'n pryderu am eu gallu i gyrraedd eu gweithle, felly mi fydd yna effaith andwyol ar economi gorllewin Cymru efo'r toriadau arfaethedig yma. Felly, mi fuaswn i'n gwerthfawrogi eich bod chi'n edrych ar y ddwy elfen yna o ran llinell Calon Cymru a llinell y Cambrian, a gofyn i'r Ysgrifennydd Cabinet ddod ymlaen â datganiad, os gwelwch yn dda.

    PLENARY OF 12/11/2024 · 2024-11-12 · READ THE OFFICIAL REPORT

  34. Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Gaf i ofyn am ddau ddatganiad, os gwelwch yn dda, a'r cyntaf gan y Dirprwy Brif Weinidog ar ganfyddiadau cyhoeddiad Cyfoeth Naturiol Cymru 'Achos dros Newid'? Fe fyddwch chi'n ymwybodol erbyn hyn fod Cyfoeth Naturiol Cymru, yr wythnos diwethaf, wedi cyhoeddi eu bod nhw am gau gweithrediadau arlwyo a manwerthu Coed y Brenin, Bwlch Nant yr Arian ac Ynyslas? Wrth gwrs, rydym ni'n gwybod bod y canolfannau yma yn denu dros £30 miliwn i mewn i economi canolbarth Cymru. Mae'n rhaid i Gyfoeth Naturiol Cymru ffeindio toriadau o £13 miliwn y flwyddyn yma, ac mae 10 y cant o hynny'n dod a gau'r gweithrediadau yma, felly mi fydd yna impact anferthol ar yr economi leol. Felly, buaswn i'n gwerthfawrogi cael datganiad efo asesiad o impact yr argymhellion yma, os gwelwch yn dda, yn y Siambr yma.

    PLENARY OF 12/11/2024 · 2024-11-12 · READ THE OFFICIAL REPORT

  35. A'r ail broblem ydy diffygion dybryd yr isadeiledd ddigidol, heb sôn, fel rydyn ni wedi clywed, am yr hiliaeth oedd yn rhan o'r stori yma, efo ethnigrwydd pobl yn cael ei gofnodi ar sail enw, sydd yn gwbl warthus. Mae'n hen bryd gweld gweddnewidiad llwyr yn agwedd y Llywodraeth tuag at ddigideiddio cofnodion iechyd, ynghyd â'r arfer o gasglu data a chysoni data. Felly, ydy'r Ysgrifennydd Cabinet yn cytuno y dylai Iechyd a Gofal Digidol Cymru gael ei gyllido a'i ariannu'n gywir er mwyn mynd i'r afael â hyn? Ydych chi hefyd am gynnal awdit gynhwysfawr o addasrwydd y ffynonellau data sydd gennym ni yng Nghymru? Ac a ydy'r Ysgrifennydd Cabinet yn cydnabod, yng ngoleuni'r dystiolaeth yma, fod yna fethiannau sylfaenol wedi bod ac yn parhau i fod, a bod camau am gael eu cymryd er mwyn eu cywiro nhw?

    PLENARY OF 06/11/2024 · 2024-11-06 · READ THE OFFICIAL REPORT

  36. Diolch i Sioned am y cwestiwn pwysig yma, achos mae'r dystiolaeth yma yn amlygu dwy o'r problemau mwyaf elfennol a sylfaenol sydd gennym ni o fewn y gwasanaeth iechyd. A dydy o ddim yn syndod i'r rhan fwyaf sydd yn gweithio yn y sectorau iechyd a gofal i glywed y stori yma, oherwydd mae'n amlwg fod problemau dybryd yn y gwasanaeth iechyd pan fo'n dod at ddata neu'r diffyg data. Neithiwr, roeddwn i yn swper yr NHS Confederation; heddiw, roeddwn i ym Mhrifysgol Caerdydd; mae tystion pwyllgor wedi sôn droeon a throeon. Bob tro, mae pobl yn y llefydd yma yn sôn am y diffygion data sydd gennym ni yng Nghymru. Sut mae'n bosib, felly, datblygu polisi effeithiol os nad ydy'r data yn gywir neu os nad oes yna gysondeb yn y data sy'n cael ei gasglu?

    PLENARY OF 06/11/2024 · 2024-11-06 · READ THE OFFICIAL REPORT

  37. Cabinet Secretary, your predecessor was adamant that the Welsh Government should retain this decision-making authority, despite signs of sustained progress being fairly thin on the ground throughout the course of her three-year tenure. Now that you've had the opportunity to assess how the escalation framework operates first-hand, do you agree with this view, and if so, what will you be doing differently in your new role to ensure that it does deliver lasting improvements as efficiently as possible?

    PLENARY OF 05/11/2024 · 2024-11-05 · READ THE OFFICIAL REPORT

  38. The detrimental implications of this were laid bare when Betsi Cadwaladr was prematurely lifted out of special measures back in 2020, and with the next election fast approaching, there is understandable concern we will face a repeat of expert advice being overruled in favour of short-term, political calculations in the run up to 2026. Full Government transparency on the rationale for moving health boards up or down the escalation pathway is, therefore, essential. So, will the Cabinet Secretary commit to publishing all advice related to changes in the escalation status of health boards as a matter of regular practice? Given the issues I've raised, I am unconvinced that the Welsh Government is the most appropriate arbiter of these escalation measures.

    PLENARY OF 05/11/2024 · 2024-11-05 · READ THE OFFICIAL REPORT

  39. The addition of yet more escalation layers at the start of the year has only compounded this issue, giving the impression of goalposts being shifted without a firm idea of how to reach the desired destination of business as usual. So, could the Cabinet Secretary confirm, in his response, whether the updated framework has been reviewed since January? How is its success relative to the previous vision being monitored? Another problem that I've raised on numerous occasions is that the lines of accountability are inherently opaque. Though the tripartite group is meant to give a veneer of equality for Audit Wales and Healthcare Inspectorate Wales, ultimately, it is Welsh Government that has the final say on the escalation status of a health board, regardless of whether it goes against the advice of the non-Government bodies.

    PLENARY OF 05/11/2024 · 2024-11-05 · READ THE OFFICIAL REPORT

  40. But given that my local health board, Betsi Cadwaladr, has been in this position for two thirds of its entire existence, there is clearly nothing exceptional about the suboptimal performance of services in north Wales. The non-routine has now become the routine, with hard-working staff and patients alike paying the price. And Betsi Cadwaladr is far from unique in this regard. All seven of Wales's major health boards remain under a form of targeted intervention—for several years, in some cases. What is particularly frustrating about the current framework is its inability to provide a clear plan and relevant timescales for driving services improvements. It is a diagnosis, rather than a prognosis.

    PLENARY OF 05/11/2024 · 2024-11-05 · READ THE OFFICIAL REPORT

  41. We last had an update from the Welsh Government on escalation arrangements back in January, and though we've witnessed substantial churn across the Labour benches in the intervening months, including three different Cabinet Secretaries holding the health and social care brief, when it comes to the management of the health service, sadly, some things never change. While I welcome the progress that has been made in some areas, on the whole, we are still confronted with the grimly familiar situation of the normalisation of failing standards. I was struck in particular by the official Welsh Government guidelines on special measures, which state that they are only meant to be implemented under exceptional circumstances.

    PLENARY OF 05/11/2024 · 2024-11-05 · READ THE OFFICIAL REPORT

  42. So many things have been carried out, in fact, that Fairbourne is now safe, and the sea levels won't impact on Fairbourne, and it is safe for people to buy houses and live there. So, I'd like a statement from the Deputy First Minister accepting this and saying that Fairbourne is a safe place to live, and confirming that the shoreline management is now improved and safe for people to live in Fairbourne, please.

    PLENARY OF 05/11/2024 · 2024-11-05 · READ THE OFFICIAL REPORT

  43. So, I'd like a statement, please, from the Deputy First Minister on the long-term prospects of Fairbourne, if possible. You will be aware that Fairbourne had a report published many years ago from the shoreline management plan, in 2009 I think, which said that it raised significant concerns over the future sustainability of the defence of Fairbourne. That was interpreted as abandoning the village and that they were going to decommission the village. Now, because of that report, and because of the media around it, people living in Fairbourne can't get insurance on their property and can't get mortgages on their property. But since then, of course, a lot of work has been done on the shoreline management, and on the sea defences in Fairbourne.

    PLENARY OF 05/11/2024 · 2024-11-05 · READ THE OFFICIAL REPORT