← LEADERSHIP TERMINAL

UK PARLIAMENT · FORMER

Rhun ap Iorwerth

Constituency Member · Plaid Cymru · Wales

IN THEIR OWN WORDS

Diolch am yr ymateb yna. Mae yna anniddigrwydd mawr yn Ynys Môn ynglŷn â'r newid amserlen yma. Pan gafodd y gwaith ei oedi dros y gaeaf yma, roedd pobl yn cymryd bod hynny'n golygu bod pethau o flaen amser.

PLENARY OF 27/11/2024 · 2024-11-27 · READ THE OFFICIAL REPORT

Diolch yn fawr iawn am yr ymateb yna. Mi godais i'r achos yma rai wythnosau yn ôl, ychydig ddyddiau cyn i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ddod i benderfyniad ar yr achos amlinellol.

PLENARY OF 27/11/2024 · 2024-11-27 · READ THE OFFICIAL REPORT

Oherwydd mae'r arafwch o hyd yn ymateb Llywodraeth Cymru i'r angen am ateb i broblemau traffig ar bont Britannia a phroblemau resilience ar bont Britannia yn cael effaith economaidd ar yr ynys.

PLENARY OF 27/11/2024 · 2024-11-27 · READ THE OFFICIAL REPORT

You make an obvious point, really, that you have to build up the capacity, but isn't it true at the same time that we need an assurance from the UK Government that the funding will be put there in its entirety to push forward with that work in as timely a way as possible, because this is urgent?

PLENARY OF 27/11/2024 · 2024-11-27 · READ THE OFFICIAL REPORT

Rydym ni hefyd yn aros, wrth gwrs, am asesiad effaith economaidd o’r modelu diweddaraf o’r SFS. Beth fydd yn digwydd os bydd yr asesiad hwnnw’n dal i ragweld colledion swyddi sylweddol a difrod i gymunedau gwledig? A fydd y Llywodraeth yn barod i feddwl eto mewn ffordd sylfaenol am rai o’u cynlluniau?

PLENARY OF 26/11/2024 · 2024-11-26 · READ THE OFFICIAL REPORT

Heb eglurder am cyllid, dim ond rhestr o ddyheadau sydd gennym ni mewn difrif, felly a wnaiff Llywodraeth Cymru gyflwyno achos cryf i Keir Starmer i wrthdroi’r toriadau welson ni dros flynyddoedd gan Lywodraethau Ceidwadol a sicrhau cyllid teg i amaeth yng Nghymru, a pha sicrwydd y gall ef ei roi y bydd cynllun y taliad sylfaenol yn cael…

PLENARY OF 26/11/2024 · 2024-11-26 · READ THE OFFICIAL REPORT

The complete record

Every one of 49 lines we hold for Rhun ap Iorwerth, in date order, each linked to its source. Free to read, in full, without an account.

  1. You make an obvious point, really, that you have to build up the capacity, but isn't it true at the same time that we need an assurance from the UK Government that the funding will be put there in its entirety to push forward with that work in as timely a way as possible, because this is urgent?

    PLENARY OF 27/11/2024 · 2024-11-27 · READ THE OFFICIAL REPORT

  2. A pha fath o becyn ariannol fydd yn cael ei ystyried, fel ei fod o'n barod i fynd pan fydd, gobeithio, yr achos llawn yn cael ei gyflwyno a'r cais llawn hwnnw am arian yn dod ar ddesg y Gweinidog?

    PLENARY OF 27/11/2024 · 2024-11-27 · READ THE OFFICIAL REPORT

  3. Diolch yn fawr iawn am yr ymateb yna. Mi godais i'r achos yma rai wythnosau yn ôl, ychydig ddyddiau cyn i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ddod i benderfyniad ar yr achos amlinellol. Roeddwn i a llawer o drigolion Caergybi a’r ardal yn falch iawn fod y bwrdd iechyd bryd hynny wedi cytuno i gymeradwyo’r cam hwnnw, a bod hynny bellach wedi’i basio i’r Llywodraeth er ystyriaeth. Does dim angen i fi atgoffa’r Ysgrifennydd Cabinet o ba mor bwysig ydy hi ein bod ni'n gallu bwrw ymlaen ar fyrder i sefydlogi a datblygu gofal iechyd sylfaenol yng Nghaergybi a’r ardal. Felly, gaf i ofyn, ynglŷn â’r amseru, ba bryd fydd Llywodraeth Cymru’n debyg o ddod i gasgliadau ynglŷn â'r cyfnod yma yn y datblygiad, ynglŷn â sicrhau'r arian?

    PLENARY OF 27/11/2024 · 2024-11-27 · READ THE OFFICIAL REPORT

  4. 5. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi diweddariad ar y cynlluniau i ddatblygu canolfan iechyd a lles integredig yng Nghaergybi? OQ61949

    PLENARY OF 27/11/2024 · 2024-11-27 · READ THE OFFICIAL REPORT

  5. Oherwydd mae'r arafwch o hyd yn ymateb Llywodraeth Cymru i'r angen am ateb i broblemau traffig ar bont Britannia a phroblemau resilience ar bont Britannia yn cael effaith economaidd ar yr ynys. Beth fydd yr Ysgrifennydd Cabinet dros yr economi yn ei wneud i roi pwysau ar yr Ysgrifennydd Cabinet dros drafnidiaeth i sortio'r broblem yma allan unwaith ac am byth?

    PLENARY OF 27/11/2024 · 2024-11-27 · READ THE OFFICIAL REPORT

  6. Diolch am yr ymateb yna. Mae yna anniddigrwydd mawr yn Ynys Môn ynglŷn â'r newid amserlen yma. Pan gafodd y gwaith ei oedi dros y gaeaf yma, roedd pobl yn cymryd bod hynny'n golygu bod pethau o flaen amser. Wedyn, wrth gwrs, mi gyhoeddwyd bod y gwaith oedd i fod i orffen tua diwedd yr haf nesaf yn mynd i fod yn cario ymlaen tan y Nadolig. Rŵan, nid dim ond anghyfleustra ydy hynny, mae o'n cael effaith economaidd ar gymunedau o fewn yr ynys ac ar yr ynys gyfan. Felly, beth fydd yr Ysgrifennydd Cabinet yn ei wneud i edrych ar sut i gynnig rhagor o gefnogaeth i fusnesau a fydd rŵan yn colli allan yn y cyfnod yn arwain at y Nadolig 2025, pan oedden nhw'n cymryd y byddai pethau nôl i'r arfer erbyn hynny, a hefyd i edrych ar y sefyllfa o gwmpas pont Britannia?

    PLENARY OF 27/11/2024 · 2024-11-27 · READ THE OFFICIAL REPORT

  7. 7. Beth yw asesiad Llywodraeth Cymru o'r effaith fydd ymestyn rhaglen waith atgyweirio Pont y Borth yn ei gael ar fusnesau Ynys Môn? OQ61951

    PLENARY OF 27/11/2024 · 2024-11-27 · READ THE OFFICIAL REPORT

  8. Mae cyfathrebu gwael gan Lywodraeth Cymru wedi arwain at ddrwgdybiaeth ac at lawer iawn, iawn o rwystredigaeth. Mae’r newidiadau a gafodd eu cyhoeddi ddoe yn gam ymlaen, dwi’n sicr o hynny, ond dim ond os gwelwn ni newid gwirioneddol mewn agwedd gan Lywodraeth hefyd. Mae'n rhaid dod â ffermwyr, onid oes, ar y daith yma, achos, heb eu cefnogaeth nhw, mi fydd y cynllun yma yn methu â chyflawni ei uchelgeisiau economaidd ac ar gyfer dyfodol amaethyddiaeth ac, wrth gwrs, ar gyfer yr amgylchedd.

    PLENARY OF 26/11/2024 · 2024-11-26 · READ THE OFFICIAL REPORT

  9. Rydym ni hefyd yn aros, wrth gwrs, am asesiad effaith economaidd o’r modelu diweddaraf o’r SFS. Beth fydd yn digwydd os bydd yr asesiad hwnnw’n dal i ragweld colledion swyddi sylweddol a difrod i gymunedau gwledig? A fydd y Llywodraeth yn barod i feddwl eto mewn ffordd sylfaenol am rai o’u cynlluniau? Lywydd, mae’n rhaid i ni, drwy hyn i gyd, gofio gwerth ffermio i Gymru. Rydym ni’n sôn am sector sy’n asgwrn cefn i gymunedau gwledig ond sydd hefyd yn gonglfaen economaidd a diwylliannol. Mae bwyd a ffermio yn werth £9.3 biliwn i economi Cymru, dros 200,000 o swyddi, dros 50,000 yn cael eu cyflogi’n uniongyrchol ar ffermydd, ac eto, er ei holl bwysigrwydd economaidd a chymdeithasol, mae ffermwyr wedi bod yn teimlo eu bod nhw ar y cyrion yn ystod y saith mlynedd o ddatblygu’r cynllun yma.

    PLENARY OF 26/11/2024 · 2024-11-26 · READ THE OFFICIAL REPORT

  10. Heb eglurder am cyllid, dim ond rhestr o ddyheadau sydd gennym ni mewn difrif, felly a wnaiff Llywodraeth Cymru gyflwyno achos cryf i Keir Starmer i wrthdroi’r toriadau welson ni dros flynyddoedd gan Lywodraethau Ceidwadol a sicrhau cyllid teg i amaeth yng Nghymru, a pha sicrwydd y gall ef ei roi y bydd cynllun y taliad sylfaenol yn cael ei warchod y flwyddyn nesaf, gan bod hwnnw, wrth gwrs, yn gosod y llinell sylfaen ar gyfer taliadau yn ystod y cyfnod pontio i’r SFS? Ac wrth gwrs, mae bygythiad Barnettisation ar y gorwel hefyd, sy’n golygu, dros amser, y bydd ffermydd yng Nghymru yn gweld gostyngiad sylweddol yn eu cyllid. Mae angen inni glywed Gweinidog amaethyddol Llafur yng Nghymru yn brwydro’n galed iawn, iawn yn erbyn cynlluniau Barnettisation gan Lafur yn Whitehall.

    PLENARY OF 26/11/2024 · 2024-11-26 · READ THE OFFICIAL REPORT

  11. Mi fydd cyflwyno’r haenau dewisol a chydweithredol fesul cam— phased introduction —yn gosod llawer o'r cyfrifoldeb amgylcheddol ar yr haenau ychwanegol yma. A all Ysgrifennydd y Cabinet gadarnhau a fydd y rheini wedi’u datblygu’n llawn ac yn barod i’w rhoi ar waith erbyn mis Mawrth 2026, ochr yn ochr â’r haen gyffredinol? Mae pryderon, wrth gwrs, am gyllidebau yn parhau yn rhai eithaf sylfaenol.

    PLENARY OF 26/11/2024 · 2024-11-26 · READ THE OFFICIAL REPORT

  12. Cymerwch, er enghraifft, y targed cynllun cyfan newydd yma ar gyfer gorchudd coed; er ein bod ni'n croesawu dileu y targed mympwyol 10 y cant hwnnw ar lefel fferm, mae yna gwestiynau'n parhau ar sut bydd y cynllun cyfan hwnnw yn cael ei bennu, a thra bo gofyn pellach i ffermwyr greu cynllun cyfle coed a gwrychoedd, beth yn union mae dangos cynnydd wrth weithredu’r cynllun erbyn 2030 yn ei olygu? Mae yna bryderon yn parhau hefyd am y broses asesu fferm gyfan a data mapio ar gyfer gorchudd coed a chynefinoedd, a heb fapio ac asesiadau cywir a chyfredol all ffermwyr ddim cynllunio’n effeithiol. Felly, a oes gan y Llywodraeth y gweithlu angenrheidiol a'r adnoddau i gynnal asesiadau ac i ddarparu data mapio addas i bwrpas?

    PLENARY OF 26/11/2024 · 2024-11-26 · READ THE OFFICIAL REPORT

  13. Rydyn ni'n symud i'r cyfeiriad cywir, felly, ond mae llawer mwy o waith, dwi'n meddwl, i'w wneud i sicrhau ei fod yn cyflawni ar gyfer ffermwyr Cymru, ar gyfer cymunedau gwledig yn ehangach, ac wrth gwrs yr amgylchedd, ac mae'n amlwg bod yna bryderon sylweddol i'w hystyried o hyd. Mae'r sector ffermio yng Nghymru, rydym ni'n gwybod, yn teimlo o dan warchae ar hyn o bryd, a'r pwysau yn dod o sawl cyfeiriad wrth gwrs—y rheoliadau NVZ, chwyddiant, TB, newid hinsawdd ei hun, Brexit wrth gwrs—a hynny ar ben yr ansicrwydd o gwmpas yr SFS. Ac mae ffermwyr, dwi'n meddwl, yn llygaid eu lle i gwestiynu sut y bydd Llywodraeth Cymru yn lliniaru rhai o'r beichiau yma sydd arnyn nhw, tra yn gofyn iddyn nhw wneud mwy o ran ysgwyddo cyfrifoldebau amgylcheddol a chymdeithasol ychwanegol.

    PLENARY OF 26/11/2024 · 2024-11-26 · READ THE OFFICIAL REPORT

  14. Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am y datganiad. Dwi'n falch o gael ymateb iddo fo a gofyn rhyw hanner dwsin o gwestiynau bach, mae'n siŵr. Dwi am ddechrau drwy gydnabod bod y fersiwn ddiweddaraf yma o'r cynllun ffermio cynaliadwy yn cynrychioli cynnydd mewn sawl maes pwysig. Mae o'n dda gweld bod rhai o gwestiynau allweddol Plaid Cymru—dileu y gofyniad gorchudd coed o 10 y cant, lleihau nifer yr universal actions , cyflwyno taliad gwerth cymdeithasol—wedi cael eu derbyn, ac mae'r newidiadau yma hefyd, dwi'n meddwl, yn dangos gwerth ymgysylltu yn adeiladol efo ffermwyr a'r sector amaethyddol ehangach.

    PLENARY OF 26/11/2024 · 2024-11-26 · READ THE OFFICIAL REPORT

  15. These tips need to be made safe, and urgently, so will she now be asking Keir Starmer to foot the whole bill for making these tips safe?

    PLENARY OF 26/11/2024 · 2024-11-26 · READ THE OFFICIAL REPORT

  16. I'll move on to anxiety over the landslip in the former mining community of Cwmtillery. We've now had three First Ministers, I think, in post since the idea of introducing coal tip safety legislation was first raised in the Senedd. And we in Plaid Cymru have long argued that Westminster should be footing the bill for making tips safe. These tips predate devolution itself; our communities shouldn't have to live with the risk that they pose or have to pay for their removal. Estimates suggest that making tips safe could cost maybe up to £600 million over 10 to 15 years. Yet, with a fanfare, the new UK Labour Government announced that they were making just £25 million available. This week, the First Minister has admitted that that is all she asked for.

    PLENARY OF 26/11/2024 · 2024-11-26 · READ THE OFFICIAL REPORT

  17. NRW reckon that flood spending needs to more than triple because of climate change, and I'm interested in knowing how the First Minister intends to reflect that kind of warning in the forthcoming budget. But let's focus on what's needed right now. I hope to hear later on today what financial support is going to be made available, and, meanwhile, businesses in flood risk areas being unable to get insurance is a major problem. We've raised it many times on these benches—is the First Minister willing to address that now? But, on immediate spending, UK Government has said there may be more resource available if and when it is needed. Does the First Minister agree with me that it's not a matter of 'if', it's, 'We need it now, and let's get down to talking how much'?

    PLENARY OF 26/11/2024 · 2024-11-26 · READ THE OFFICIAL REPORT

  18. It's quite an assessment that the First Minister has been able to make in just a day or two. I'm sure there are lessons that have been learnt. We'll need to know exactly what happened. Was there less rain this time? Why did some of the warnings not come from NRW on time and so on? But the flooding will have caused, of course, significant financial hardship for families, for businesses and for other organisations, not least local authorities themselves. They're looking for both short-term and more medium- to long-term responses now. The First Minister said again now that hundreds of millions of pounds have been put into flood defences. What she has forgotten to say is that there's been an £8.5 million cut to flood risk management in this year's budget.

    PLENARY OF 26/11/2024 · 2024-11-26 · READ THE OFFICIAL REPORT

  19. Diolch, Llywydd. Mae'r llifogydd, unwaith eto, wedi achosi difrod sylweddol a cholli bywyd, ac mae ein cydymdeimlad ni'n fawr efo teulu'r unigolyn hwnnw a phawb sydd wedi dioddef gwaethaf o effeithiau storm Bert, a dwi'n ddiolchgar iawn ar ran grŵp Plaid Cymru i'r asiantaethau a'r gwirfoddolwyr hynny sydd wedi ymateb ar frys.

    PLENARY OF 26/11/2024 · 2024-11-26 · READ THE OFFICIAL REPORT

  20. Mi soniais i am rai o'r dewisiadau amgen y bues i'n cyfeirio atyn nhw yn ystod yr etholiad eleni, a dwi'n parhau i wneud rŵan, ynglŷn ag, ie, dod â rhagor o arian i'r coffrau er mwyn sicrhau bod gwasanaethau cyhoeddus yn cael eu cyllido yn iawn, ond disgyn i'r trap o ddilyn yn ôl traed y Ceidwadwyr mae Llafur wedi'i wneud. Wedi sôn ydw i, a'm cyd-Aelodau i ar y meinciau yma, am y problemau ymarferol sylweddol sydd yn cael eu creu oherwydd y newidiadau yma, a hynny i gyrff cyhoeddus, sefydliadau sy'n cynnig gwasanaethau hanfodol, a busnesau preifat, a oedd mewn sefyllfa fregus yn barod ar ôl yr holl flynyddoedd hynny o lymder. Mi wnaf i droi at sylwadau'r Ysgrifennydd Cabinet.

    PLENARY OF 20/11/2024 · 2024-11-20 · READ THE OFFICIAL REPORT

  21. Ond llymder Llafur ydy hyn, yn dod yn ei le. A dim rhyfedd bod pobl sydd wedi bod yn driw i Lafur cyhyd yn teimlo mor siomedig yn gweld yr hyn sydd yn digwydd. Mi wnaeth Hefin David awgrymu ein bod ni, drwy siarad am hyn, yn creu poen meddwl. Ond nid siarad am lymder sydd yn creu poen meddwl, y llymder ei hun sydd yn creu poen meddwl, a dyna pam fy mod i'n apelio ar Hefin David, a'i gyd-Aelodau o ar y meinciau Llafur, i'n cefnogi ni i alw am newid cyfeiriad gan ei benaethiaid o o fewn y Blaid Lafur. Ac mae o hefyd yn disgyn i'r trap o ddweud bod yna ddim dewis, ond wrth gwrs bod yna ddewis.

    PLENARY OF 20/11/2024 · 2024-11-20 · READ THE OFFICIAL REPORT

  22. Diolch, Lywydd, ac dwi'n ddiolchgar i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl yma y prynhawn yma. Fel dywedais i ar y dechrau, mae yna bryderon difrifol ar draws sectorau cyhoeddus a phreifat am effaith y newidiadau y mae Llafur wedi’u cyhoeddi i yswiriant gwladol. Mi addawyd bod newid Llywodraeth yn mynd i warchod pobl gyffredin, gwarchod ein cymunedau ni, ar ôl yr holl flynyddoedd o lymder Ceidwadol. Ond mae’r newid yma yn mynd i barhau’r llymder i gymaint o bobl mewn ffordd ymarferol. Mae llymder wedi tanseilio gwasanaethau cyhoeddus dros y 15 mlynedd diwethaf. Mae hyn yn mynd i danseilio gwasanaethau cyhoeddus. Mae llymder wedi tynnu arian allan o bocedi pobl dros ddegawd a mwy. Mi fydd hynny’n digwydd eto rŵan. Mi oedd llymder y Ceidwadwyr yn boenus. Mi gafodd effaith drom ar rai o’r bobl fwyaf bregus rŷn ni yn eu cynrychioli.

    PLENARY OF 20/11/2024 · 2024-11-20 · READ THE OFFICIAL REPORT

  23. Ac efo lefelau cyflogaeth ar eu hisaf ers bron i ddegawd, yn is nag unrhyw le arall yn y Deyrnas Unedig, mae'r baich ychwanegol ar gyflogwyr yn siŵr o gael effaith anghymesur ar gyflogwyr Cymru.

    PLENARY OF 20/11/2024 · 2024-11-20 · READ THE OFFICIAL REPORT

  24. Mae hynny, onid ydy, wedi cael ei brofi'n wir yn yr hyn sy'n cael ei amlygu rŵan yn dilyn y gyllideb, ac yn anwybyddu ein galwadau ni i gyflwyno mesurau mwy blaengar i godi refeniw, trethi ar gyfoeth—mae yna gymaint sydd ddim wedi cael ei ymchwilio iddo fo yn y maes hwnnw—neu opsiynau mwy pellgyrhaeddol ar enillion cyfalaf, o bosib. Mae Llafur wedi creu twll iddyn nhw eu hunain, a phobl Cymru sydd yn mynd i dalu'r pris. Nid am y tro cyntaf, mae mesurau Sir Keir Starmer yn diystyru anghenion Cymru. Mae'r newidiadau i gyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr yn adlais o'r ffordd mae'r Prif Weinidog wedi cosbi pensiynwyr drwy dynnu'r lwfans tanwydd oddi arnyn nhw yn ddisymwth, a'r penderfyniad i amharchu Cymru drwy beidio â sicrhau fformiwla ariannu deg a'n hamddifadu o arian HS2.

    PLENARY OF 20/11/2024 · 2024-11-20 · READ THE OFFICIAL REPORT

  25. Yn ôl asesiad yr OBR, mi fydd dros tri chwarter o'r gost yn cael ei basio ymlaen i weithwyr, naill ai drwy wasgfa ar gyflogau neu grebachu ar y gweithlu ei hun, gan niweidio cyfleon am greu cyflogaeth a chadw cyflogaeth, ac mae hynny, yn ei dro, yn siŵr o erydu safonau byw. Ac i'n busnesau domestig ni, asgwrn cefn ein heconomi, mae'r codiad yn eu cyfraniadau yswiriant gwladol yn golygu bil ychwanegol ar gyfartaledd o £900 i bob gweithiwr yn flynyddol. Fel y dywedais i, mi wnes i a fy nghyd-Aelodau ar y meinciau yma rybuddio'n gyson yng nghyfnod yr etholiad nad oedd cynlluniau gwario Llafur yn dal dŵr, ac y byddan nhw'n arwain at fwy o lymder.

    PLENARY OF 20/11/2024 · 2024-11-20 · READ THE OFFICIAL REPORT

  26. Dro ar ôl tro mi glywsom ni Lafur yn addo peidio â chodi trethi ar weithwyr, ond dyma ni, gwta pedwar mis i mewn i oes y Llywodraeth newydd, ac mae Keir Starmer wedi mynd yn ôl ar ei air a tharo pocedi gweithwyr. Achos dyna sydd yn digwydd yma—rhywbeth yr oedd o wedi addo ei warchod. Ac nid dehongliad pleidiol gwleidyddol ydy hynny. Mae yna ddadleuon ynglŷn â lefelau trethiant wastad, ond mae sylwebwyr uchel iawn eu parch fel Paul Johnson o'r IFS yn dweud bod codi cyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr yn torri addewid maniffesto'r Blaid Lafur mewn ffordd ddigamsyniol.

    PLENARY OF 20/11/2024 · 2024-11-20 · READ THE OFFICIAL REPORT

  27. Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Mae'r ddadl heddiw yn ymwneud ag effeithiau ymarferol a phellgyrhaeddol penderfyniadau gwael gan Lywodraeth, ac mae hi hefyd yn ymwneud â gonestrwydd mewn gwleidyddiaeth. Mi fydd llawer yn cofio rhybuddion Plaid Cymru ac eraill yn ystod ymgyrch yr etholiad cyffredinol eleni fod yna ddiffyg gonestrwydd yn cael ei arddangos gan Lafur a'r Ceidwadwyr ynglŷn â chynlluniau gwario a threthu. Mi fyddan nhw'n cofio rhybudd yr IMF fod yna gynllwyn o gyfrinachedd, neu conspiracy of silence, rhwng y ddwy blaid am y gwirionedd bod yna dwll o ddegau o biliynau o bunnau yn y cynlluniau roedden nhw'n eu cyflwyno i etholwyr.

    PLENARY OF 20/11/2024 · 2024-11-20 · READ THE OFFICIAL REPORT

  28. Mae gwasanaethau a oedd yn rhagorol wedi cael eu dad-wneud, a phobl y gogledd sy'n talu'r pris am hynny. Mi oedd canfyddiadau'r arolygiaeth gofal iechyd o gynnydd mewn gwasanaethau fasgiwlar yn y gogledd dros y flwyddyn diwethaf yn galonogol—hynny ydy, dwi yn chwilio am arwyddion positif. Ond beth rydym ni'n ei weld yn fan hyn, a'r hyn roeddem ni'n ei hofni, ydy cam mawr arall yn ôl. Felly, a gaf i, gan yr Ysgrifennydd Cabinet, wybod beth ydy'r amserlen? Beth ydy'r amserlen rŵan o ran dychwelyd y gwasanaethau yma yn ôl i ogledd Cymru? Ac yn bwysicach oll, pryd fydd yr addewidion a gafodd eu gwneud nôl yn 2018 am y buddiannau o ganoli gwasanaethau fasgiwlar arbennig yn Ysbyty Glan Clwyd yn dwyn ffrwyth? Achos ychydig iawn ohonom ni wnaeth gredu ar y pryd mai gwella fyddai'r gwasanaeth o ganlyniad i'r penderfyniad hwnnw.

    PLENARY OF 20/11/2024 · 2024-11-20 · READ THE OFFICIAL REPORT

  29. Ond beth sy'n creu y rhwystredigaeth fwyaf yn fan hyn, dwi'n meddwl, ydy hanes diweddar y ffordd mae bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr wedi trin gwasanaethau fasgiwlar a'r ffaith bod ymgyrchwyr lleol, a ninnau ar y meinciau yma, wedi rhybuddio dro ar ôl tro am y peryg o'r hyn a wnaed, ac y byddai fo yn arwain at ddirywiad gwirioneddol hirdymor mewn gwasanaethau fasgiwlar a oedd yn rhagorol. Y cyfiawnhad gawsom ni dros gau'r uned fasgiwlar byd-enwog yn Ysbyty Gwynedd ac i ganoli gwasanaethau yn Ysbyty Glan Clwyd oedd y byddai fo'n arwain at ganlyniadau gwell i gleifion gogledd Cymru. Doedd yna neb ohonom ni yn credu hynny. Chwe blynedd yn ddiweddarach, nid yn unig mae gwasanaethau fasgiwlar Betsi Cadwaladr mewn mesurau arbennig, maen nhw hefyd yn cael eu gyrru rŵan i Loegr, heb unrhyw sôn am ailgyflwyno'r gwasanaeth am y dyfodol rhagweladwy.

    PLENARY OF 20/11/2024 · 2024-11-20 · READ THE OFFICIAL REPORT

  30. Mi ddaeth y newyddion am y toriadau i lawdriniaethau abdominal aortic aneurysm fel ergyd drom arall, mae gen i ofn, i ranbarth sydd wedi gweld diffygion gwirioneddol mewn gwasanaethau fasgiwlar dros y blynyddoedd diwethaf. Does dim angen i fi ddweud, nac oes, bod symud gwasanaethau ar draws y ffin i Stoke am fod yn anghyfleus. Mae'n mynd i fod yn anghyfleus i bobl sy'n byw yn y gogledd-ddwyrain, ond i rywun sy'n byw yn fy etholaeth i, yn Ynys Môn, neu ymhellach draw i'r gorllewin, pen draw Llŷn, o bosib, mae'r penderfyniad yma am gael effaith wirioneddol ar hygyrchedd y lawdriniaeth allweddol yma.

    PLENARY OF 20/11/2024 · 2024-11-20 · READ THE OFFICIAL REPORT

  31. Can I also thank the Senedd 4 Ukraine group for their dedication and their work in standing in solidarity with Ukraine? It’s vital that we not only remember the Holodomor, but also reflect on the lessons that it still teaches us today. Those lessons, sadly, have yet to be fully learned, as we continue to see similar tragedies unfold in the world today. This debate today is a reminder of the heavy consequences of ignoring warnings from history and disregarding human rights.

    PLENARY OF 19/11/2024 · 2024-11-19 · READ THE OFFICIAL REPORT

  32. We've had a number of Wales Bills over the years that have become law, but Labour haven't actually brought one forward now for nearly 20 years. Here's how the last Conservative Wales Bill—by then, a Wales Act—was described in 2017: 'There is no disputing the fact that the Wales Bill...is a poorly drafted, complex, and rushed piece of legislation which will not...settle the issue of the relationship between Westminster and Cardiff Bay for a generation.' The words there of somebody who would surely feel that another Wales Bill is long overdue, and they were the words of the First Minister herself. So, will she join me in putting her view on record that Wales should have full parity with Scotland, and that a new comprehensive Wales Bill would be a way of achieving that?

    PLENARY OF 19/11/2024 · 2024-11-19 · READ THE OFFICIAL REPORT

  33. He's clearly not listening one bit to the First Minister of Wales, even though she's from his own party. I discussed HS2 with the Labour Secretary of State for Wales yesterday. She used to agree with us on the HS2 consequentials issue. I think the figure that she used to use was £4.5 billion owed to Wales, but she has changed her mind now. But I presented a way forward for her: let's have a new piece of legislation at Westminster, dealing with fair funding, yes, but also a host of other issues. A new Wales Bill would pave the way for devolving the Crown Estate, devolving policing and justice—matters that Labour used to agree with us wholeheartedly on, and, crucially, matters already devolved to Scotland. And surely, treating Wales equally with Scotland is the least that we should be able to expect from a UK Government.

    PLENARY OF 19/11/2024 · 2024-11-19 · READ THE OFFICIAL REPORT

  34. So, now that he has closed the door on HS2 consequentials, what is her next move? Keir Starmer has given up on Wales, but we can't afford to have a Welsh First Minister doing so.

    PLENARY OF 19/11/2024 · 2024-11-19 · READ THE OFFICIAL REPORT

  35. She should be demanding the consequentials. She's defending Keir Starmer again, instead of standing up for Wales. She's too busy waving her glow stick on the dance floor to shine a light on this injustice, perhaps. There's not a mile of HS2 in Wales, but we're paying for it. The First Minister, her Cabinet and Labour backbenchers, frankly, should be up in arms about Keir Starmer's attitude towards Wales. In last month's council of nations meeting, the First Minister said that Wales was being short-changed and needed fair play on rail infrastructure. To save face for her boss, she said that she didn't expect to see the cash in the Chancellor's first budget, saying, and I quote, 'We need more time for that.' But whilst she thought that it was a matter of 'when', for Keir Starmer it was clearly a matter of 'if'.

    PLENARY OF 19/11/2024 · 2024-11-19 · READ THE OFFICIAL REPORT

  36. When the Labour Prime Minister, Keir Starmer, announced on the eve of Labour's Welsh conference at the weekend that Wales would not be getting any HS2 consequentials, that consequentials just didn't apply because heavy rail isn't devolved, denying us the £4 billion owed to us, was that how she imagined her so-called partnership in power working?

    PLENARY OF 19/11/2024 · 2024-11-19 · READ THE OFFICIAL REPORT

  37. Yes, we're delighted to have got those things done, but we won't be supporting a motion that proclaims significant progress made by the new First Minister when, by any objective measure, nothing has fundamentally changed in those 100 days.

    PLENARY OF 13/11/2024 · 2024-11-13 · READ THE OFFICIAL REPORT

  38. The First Minister's proclaimed priorities are admirable—yes, we must bring down waiting lists; yes, we must prioritise creating green jobs; yes, we must raise standards in our schools and better connect our communities. But, 100 days in, the truth is that there's no plan and no sign of a plan. I'll end, Dirprwy Lywydd, by saying that the irony of Labour's amendment won't be lost on these benches—a list of things that happened to have crossed the line, as I say, during the First Minister's first 100 days in office, including ideas that came from Plaid Cymru and that Labour in the past tried to block or vote against.

    PLENARY OF 13/11/2024 · 2024-11-13 · READ THE OFFICIAL REPORT

  39. Our amendment expresses regret at the new First Minister failing to make the case for Wales on those issues, and on the dreadful winter fuel payment cut and on the two-child benefit cap. I'm afraid that what we've seen is Labour in Welsh Government, under the new First Minister, shifting into the mode of defending their masters at Westminster. Yes, we need Welsh Ministers, as Plaid Cymru Ministers would be, engaging positively with the UK Government, but we gain nothing by being in thrall to them. A fundamental difference between Plaid Cymru and Labour is that we will never let Westminster diktat hamper our ambitions for Wales.

    PLENARY OF 13/11/2024 · 2024-11-13 · READ THE OFFICIAL REPORT

  40. Now, this flies in the face of the Minister's assertion last week that, and I quote: 'The big picture in 2024 is that schools are getting the basics right.' They're clearly not. When the First Minister became the leader of Labour in Wales, she promised to turn the tables—'doing things differently', she said. But, her approach to dealing with the Prime Minister of the UK has been, in many ways, a backwards step. On the case for a needs-based funding formula, devolution of the Crown Estate and full HS2 consequentials, the Welsh Government have, at various junctures, come to agree with Plaid Cymru positions. But, now, with Labour in UK Government, the First Minister has singularly failed to move the dial.

    PLENARY OF 13/11/2024 · 2024-11-13 · READ THE OFFICIAL REPORT

  41. Again, we're talking about where is the change of direction, a change of tone, under a new First Minister. I'm not seeing that. We can refer to things that have happened in the last 100 days; that does not mean a change of direction under a new First Minister. But we call it a partnership—. We've had it referred to as a partnership of power, but you have to earn that descriptor; you just can't ascribe it to yourself unconditionally. For it to be justified, we have to see how a partnership in power benefits Wales. The least we expected was for the First Minister, for example, to put up a fight for steelworkers in Port Talbot. Now, on education, her first 100 days saw a damning report into how pupils are taught to read in Wales and how Welsh Government guidance has been severely lacking.

    PLENARY OF 13/11/2024 · 2024-11-13 · READ THE OFFICIAL REPORT

  42. I certainly welcome any reference to the successful Plaid Cymru campaign to get that medical school in Bangor. I don't think, though, we can refer to the fact that that happened—happened to happen—during the first 100 days of the new First Minister's tenure as a sign of significant moves forward by the First Minister. So, no change of direction on health. Similarly, no plan for green jobs or growth. The Labour Party have called it a relationship, a partnership in power between Labour in Wales—

    PLENARY OF 13/11/2024 · 2024-11-13 · READ THE OFFICIAL REPORT

  43. Rŵan, dwi'n ddigon cymodlon i gydnabod byddai hi'n afresymol disgwyl i'r Prif Weinidog fod wedi trawsnewid bob un o'r meysydd yna o flaenoriaeth, ond mae hi'n deg gofyn lle mae'r weledigaeth a lle mae'r cynllun all arwain at newid. Does yna ddim cynllun i fynd i'r afael â'r argyfwng sy'n wynebu'r gwasanaeth iechyd; yr unig gyhoeddiad hyd yma, o lwyfan y gynhadledd Lafur, am berthynas drawsffiniol newydd wnaeth droi allan i beidio â bod yn berthynas drawsffiniol newydd o gwbl, wedi bod yn destun gwawd a gwrth-ddweud am yn ail. Ac, yn y cyfamser, mae rhestrau aros ar eu lefel uchaf erioed.

    PLENARY OF 13/11/2024 · 2024-11-13 · READ THE OFFICIAL REPORT

  44. Diolch, Ddirprwy Lywydd. Maen nhw'n dweud bod wythnos yn amser hir mewn gwleidyddiaeth—mae lot yn gallu digwydd mewn amser byr iawn—ond i'r rhai a oedd yn gobeithio y byddai'r Prif Weinidog yn golygu newid cywair go iawn, newid cyfeiriad go iawn, wrth inni edrych yn ôl dros 100 niwrnod cyntaf y Prif Weinidog Llafur diweddaraf, prin ydy'r dystiolaeth sy'n cefnogi'r hen ddihareb honno. Mi gymerodd y Prif Weinidog, wrth gwrs, rai wythnosau i benderfynu beth oedd ei blaenoriaethau hi a setlo ar y rhain: torri hyd restrau aros yr NHS; creu swyddi gwyrdd i daclo'r argyfwng hinsawdd; cynyddu safonau addysgiadol; a chysylltu cymunedau.

    PLENARY OF 13/11/2024 · 2024-11-13 · READ THE OFFICIAL REPORT

  45. We're still waiting, aren't we, for the statutory guidance around the Act that the RCN has long argued for, setting out how health boards and trusts should fulfil all their responsibilities under it. So, will the First Minister commit to strengthening the law on safe nursing staffing levels in Wales, so that the NHS provides an environment that is safer for patients and fairer for staff?

    PLENARY OF 12/11/2024 · 2024-11-12 · READ THE OFFICIAL REPORT

  46. Where’s the plan to bring more people in? And why cap that number now, unless you feel that there's no hope in setting more ambitious targets for bringing new students in? Let me highlight more figures from the 'Nursing in Numbers' report. There are around 2,000 nursing vacancies in the Welsh NHS. That's why we need to bring more nurses in. Nurses in Wales are working more than 73,000 extra hours a week. No wonder the RCN say that workforce planning in Wales is under-researched and under-resourced. For years, Welsh Government didn't even publish statistics for the vacancy numbers in Wales, and they have failed to put a comprehensive and sustainable workforce plan in place. Now, the Nurse Staffing Levels (Wales) Act 2016 was pioneering, but we can and should go further.

    PLENARY OF 12/11/2024 · 2024-11-12 · READ THE OFFICIAL REPORT

  47. The number of nursing degree places agreed to by Welsh Government this year represents only between 50 per cent and 69 per cent of what health boards requested. Why has Government decided to risk making the staffing crisis worse by cutting student places?

    PLENARY OF 12/11/2024 · 2024-11-12 · READ THE OFFICIAL REPORT

  48. We've had a description of what the Government says it has done, but, clearly, no plan, and I can't overemphasise how important it is that there is a plan now on pay, and on elements such as training and recruitment. The nursing agency bill, whilst it has come down a little, was still at a staggering £142 million last year. The RCN's 'Nursing in Numbers' report, published last week, tells us that that could pay for 4,677 full-time, newly registered nurses, and, if Labour fail to tackle the staffing crisis, that agency bill can only grow. Now, I'm pleased that the nursing bursary has been extended for the 2024-25 academic year, though nothing beyond that, but, in what can only be described as a backwards step, Welsh Government has cut places on all nursing undergraduate courses for the first time in a decade.

    PLENARY OF 12/11/2024 · 2024-11-12 · READ THE OFFICIAL REPORT

  49. Diolch, Llywydd. Mae'r Prif Weinidog ei hun, cyn Weinidog iechyd, wrth gwrs, yn derbyn dyw'r NHS yng Nghymru ddim lle dylai fo fod ar ôl 25 mlynedd o Lywodraethau wedi’u harwain gan Lafur: y rhestrau aros; yr angen am ymyrraeth yn y byrddau iechyd; ac mae staff, wrth gwrs, yn gorfod gweithio mewn amgylchiadau mwy a mwy anodd. Nhw ydy curiad calon yr NHS, ac mae recriwtio effeithiol, y gallu i gadw talent, yn allweddol, efo cyflogau teg wrth wraidd hynny. Yr wythnos diwethaf mi wnaeth nyrsys wrthod cynnig cyflog diweddaraf y Llywodraeth Lafur. Mae'r Royal College of Nursing yn dweud hyn:

    PLENARY OF 12/11/2024 · 2024-11-12 · READ THE OFFICIAL REPORT