Llyr Gruffydd
Regional Member · Plaid Cymru · Wales
“Jest yn fyr iawn ar hynny, gan eich bod chi wedi sôn am y sector breifat yn benodol, achos mae yn anodd cael leverage gyda pherchnogaeth breifat o'i chymharu â thai cyhoeddus, wrth gwrs, lle rydych chi'n gallu gosod safonau ac yn y blaen.”
“Roedd rhywun yn gwneud cymhariaeth ddifyr iawn ychydig yn ôl: rydym ni mor brysur yn tynnu pobl mas o’r afon, does dim amser gyda ni i gerdded lan yr afon i weld pwy sy’n eu towlu nhw i mewn, neu eu stopio nhw rhag cwympo i mewn.”
“Roeddwn i jest eisiau holi ynglŷn â'r carbon border taxes , a dweud y gwir. Nawr, mae'r carbon border adjustment mechanism gan yr Undeb Ewropeaidd wedi dod i rym ers Hydref y llynedd, ac mae hynny’n golygu bod yna ofyniad am adroddiadau ychwanegol ar allyriadau pan ŷch chi’n mewnforio i’r Undeb Ewropeaidd.”
“Ie, jest yn fyr, os caf i. Yn amlwg, mae sefyllfa'r porthladd wedi codi yn sgil stormydd ac yn y blaen, ond mae sefyllfa'r bont, yn fwyaf diweddar, yn ein hatgoffa ni eto o broblem cydnerthedd neu resilience lincs trafnidiaeth ar ac oddi ar yr ynys. Ydy'r ffaith—?”
“—a’n bod ni’n mewnforio pethau carbon-ddwys tra’n stopio eu cynhyrchu nhw yn y wlad yma, ac, efallai, yn sgil hynny, colli swyddi, ac yn y blaen.”
“Ie, y gwasanaeth iechyd. Yn amlwg mae iechyd da yn un o'r blaenoriaethau rŷch chi wedi'u hamlinellu, a dwi'n siŵr ein bod ni i gyd yn croesawu hynny, ond, gyda 18 mis i fynd tan ddiwedd y Llywodraeth yma, pan fyddwn ni'n cyrraedd y 18 mis yna, sut bydd pobl yn mesur eich llwyddiant chi neu fel arall, ŷch chi'n meddwl?”
The complete record
Every one of 49 lines we hold for Llyr Gruffydd, in date order, each linked to its source. Free to read, in full, without an account.
“Jest yn fyr iawn ar hynny, gan eich bod chi wedi sôn am y sector breifat yn benodol, achos mae yn anodd cael leverage gyda pherchnogaeth breifat o'i chymharu â thai cyhoeddus, wrth gwrs, lle rydych chi'n gallu gosod safonau ac yn y blaen. Un awgrym sydd wedi cael ei wneud yn y gorffennol yw eich bod chi'n defnyddio rhai o'r pwerau trethiannol sydd gyda chi. So, mae'r land transaction tax , er enghraifft, pan fydd tŷ yn cael ei werthu neu ei brynu, dyna'r adeg pan fydd yna waith yn digwydd ar y tŷ, yn amlach na pheidio. Felly, oes yna bosibilrwydd, os oes gwaith i ddod â thŷ lan i ryw ansawdd o safbwynt effeithlonrwydd ynni yn y flwyddyn cyn ei werthu e, neu yn y flwyddyn neu ddwy ar ôl ei brynu e, fod yna elfen o ad-daliad ar y land transaction tax , er enghraifft? Mae yna awgrymiadau creadigol wedi dod o'm mhwyllgor i a llefydd eraill.”
“So, 18 mis i nawr, bydd y ffigyrau neu'r rhestrau aros rŷch chi'n eu targedu wedi dod i lawr a gweddill y gwasanaethau ddim wedi gwaethygu.”
“Jest i gloi fy rhan i, rŷch chi wedi dweud sawl gwaith bod yna trade-offs yn mynd i orfod bod, ac mae rhywun yn deall, i raddau, fod yna realiti ynglŷn â hynny, ond, er mwyn cyflawni'r hyn rŷch chi wedi'i amlinellu i ni nawr, beth, felly—? Hynny yw, bydd yna bris i'w dalu o fewn y gwasanaeth iechyd mewn mannau eraill hefyd, oni fydd?”
“Ie, ond mae record ASH yn record gryf iawn, onid yw hi, yn enwedig gyda phlant a phobl ifanc mewn ysgolion. Maen nhw’n gwneud yn union dau o’r tri pheth oeddech chi’n sôn amdanyn nhw yn fanna. Dydych chi ddim yn teimlo ei fod e’n short sighted i fod yn torri gwasanaeth sydd yn llwyddo yn well na rhai o’r rhaglenni eraill ŷch chi’n mynd i sôn amdanyn nhw.”
“Sut ŷch chi'n gallu cyfiawnhau torri rhywbeth sydd yn mynd i fod yn atal pobl rhag mynd yn sâl ac felly’n creu mwy o broblem i’r gwasanaeth iechyd yn y dyfodol?”
“Roedd rhywun yn gwneud cymhariaeth ddifyr iawn ychydig yn ôl: rydym ni mor brysur yn tynnu pobl mas o’r afon, does dim amser gyda ni i gerdded lan yr afon i weld pwy sy’n eu towlu nhw i mewn, neu eu stopio nhw rhag cwympo i mewn. Nawr, yn amlwg, mae rhai ohonom ni’n awyddus i weld ffocws cryf ar atal pobl rhag mynd yn sâl yn y lle cyntaf. Ble mae hwnna’n eistedd yn eich blaenoriaethau chi? Oherwydd roeddwn i yn nodi, er enghraifft, fod ariannu ar gyfer ASH Cymru yn rhywbeth sy’n cael ei dorri ac efallai ei ddiddymu. Nawr, honna yw’r unig elusen yng Nghymru sy’n delio gyda defnydd o dybaco ac yn y blaen. Mae yna 300,000 o bobl yn ysmygu yng Nghymru; cancr yr ysgyfaint yw’r lladdwr mwyaf sydd gyda ni.”
“So, mae hi'n bosib, felly, pan fyddwn ni’n dod i ddiwedd y Senedd yma, efallai bydd yr elfennau ŷch chi wedi eu targedu â niferoedd wedi dod i lawr, ond mae yna dros 800,000 o bobl neu patient pathways yn aros am driniaeth; mae’n bosib y bydd y ffigur global yna wedi mynd lan.”
“Diolch. Un peth penodol ŷch chi wedi ei ddweud am y rheini sy’n aros dros dwy flynedd, rŷch chi eisiau eu cael nhw i lawr o 23,000 i 8,000, sy’n mynd i fod yn gwymp o ddwy ran o dair. Sut ŷch chi wedi gallu bod mor sbesiffig gyda’ch ffigurau, achos mae’r rhestrau aros yma jest yn—?”
“Ie, y gwasanaeth iechyd. Yn amlwg mae iechyd da yn un o'r blaenoriaethau rŷch chi wedi'u hamlinellu, a dwi'n siŵr ein bod ni i gyd yn croesawu hynny, ond, gyda 18 mis i fynd tan ddiwedd y Llywodraeth yma, pan fyddwn ni'n cyrraedd y 18 mis yna, sut bydd pobl yn mesur eich llwyddiant chi neu fel arall, ŷch chi'n meddwl? Beth sydd yna inni weld os ŷch chi'n llwyddo neu beidio?”
“Felly, ydy'r hyn sydd wedi digwydd yn y dyddiau diwethaf yn ei godi fe lan y rhestr o safbwynt cysylltedd Ynys Môn, oherwydd mae hwn yn bwnc sydd wedi cael ei godi ers blynyddoedd, onid yw e, ac mae e'n sefyllfa unigryw oherwydd y bottleneck arbennig sydd yn fanna, o'i gymharu efallai ag isadeiledd yn rhannau arall o Gymru, lle mae yna workarounds dipyn yn haws efallai?”
“Ie, jest yn fyr, os caf i. Yn amlwg, mae sefyllfa'r porthladd wedi codi yn sgil stormydd ac yn y blaen, ond mae sefyllfa'r bont, yn fwyaf diweddar, yn ein hatgoffa ni eto o broblem cydnerthedd neu resilience lincs trafnidiaeth ar ac oddi ar yr ynys. Ydy'r ffaith—? Nid yn unig dwi'n meddwl y ffordd ar bont Britannia oedd yr issue gyda'r lori, ond mae e wedi effeithio ar y llinell drên hefyd. Felly, ydy hynny yn eich atgoffa chi unwaith eto o'r angen i fynd i'r afael â'r broblem resilience sydd yna o safbwynt trafnidiaeth ar ac oddi ar yr ynys?”
“Yn gefnlen i’r hyn ŷch chi wedi'i ddweud, wrth gwrs, mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi dweud eu bod nhw eisiau reset yn y berthynas rhwng y Deyrnas Unedig a'r Undeb Ewropeaidd. Beth yw eich uchelgais chi, neu'ch gobaith chi, o ran beth fyddai'r reset yna'n edrych fel?”
“Wel, dyna rôn i’n ei ofyn. Hynny yw, ydy’r Llywodraeth yng Nghymru wedi asesu pa effaith bydd e’n ei gael efallai, nid dim ond o ran sero net, ond yn ehangach, o ran argaeledd gwahanol bethau sydd eu hangen ar ddiwydiant yng Nghymru i weithredu?”
“—a’n bod ni’n mewnforio pethau carbon-ddwys tra’n stopio eu cynhyrchu nhw yn y wlad yma, ac, efallai, yn sgil hynny, colli swyddi, ac yn y blaen. So, rŷch chi’n iawn yn yr ystyr ei fod e’n creu sefyllfa decach, ond does bosib, wedyn, drwy beidio â mewnforio gymaint, neu trwy greu disincentive i stwff ddod i’r wlad yma, mae e’n mynd i gael effaith bositif ar dargedau sero net.”
“Roeddwn i jest eisiau holi ynglŷn â'r carbon border taxes , a dweud y gwir. Nawr, mae'r carbon border adjustment mechanism gan yr Undeb Ewropeaidd wedi dod i rym ers Hydref y llynedd, ac mae hynny’n golygu bod yna ofyniad am adroddiadau ychwanegol ar allyriadau pan ŷch chi’n mewnforio i’r Undeb Ewropeaidd. Felly, er mwyn lefelu ychydig ar y playing field , mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn cyflwyno trethi ffin tua 2027, dwi’n meddwl. Pa asesiad ydych chi wedi’i wneud o sut fydd hynny yn cyfrannu, o bosib, at dargedau sero net Llywodraeth Cymru?”
“Ie, jest yn fyr, os caf i. Rŷch chi yn dweud bod y ffocws yn symud o ysgrifennu strategaethau i gynlluniau gweithredu, ac mae hynny’n rhywbeth y byddai pawb yn cytuno ag ef, dwi'n siŵr. Ond, wrth gwrs, mae gweithredu yn costio mwy o bres nag ysgrifennu strategaethau, felly sut mae’r sifft yn y pwyslais yna'n cael ei adlewyrchu yn y gyllideb sydd ar gael y flwyddyn nesaf?”
“Felly, yn unol â Rheol Sefydlog—er mwyn i ni allu symud ymlaen i drafod y rhaglen waith—17.42(vi) a (ix), dwi'n cynnig bod pwyllgor yn penderfynu cwrdd yn breifat am weddill y cyfarfod yma, cyhyd â bod Aelodau yn fodlon. Pawb yn hapus? Ie, dyna ni. Mi arhoswn ni eiliad tan ein bod ni mewn sesiwn breifat. Diolch yn fawr iawn.”
“Oherwydd mae gan awdurdodau lleol bwerau yn barod, onid oes, o dan Ran 2 Deddf Mwyngloddiau a Chwareli (Tomenni) 1969, i gymryd camau i sicrhau bod tomenni nas defnyddir yn ddiogel, ac, wrth gwrs, mae'r Llywodraeth, ar y cyd ag awdurdodau lleol, eisoes wedi gwneud gwaith yn categoreiddio tomenni. Felly, pam mae angen Deddf o gwbl?”
“Mi fydd ein gwaith craffu ni wrth gwrs yn parhau yn ystod tymor y gwanwyn, pan fyddwn ni’n cynnal cyfres o sesiynau tystiolaeth gyda gwahanol randdeiliaid. Ond fel roeddwn i’n dweud, i gychwyn y broses yr wythnos yma, rŷn ni’n croesawu Huw Irranca-Davies, y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig. Ac yn ymuno ag e mae Chris Jones, sydd yn ddirprwy gyfarwyddwr etifeddiaeth mwyngloddio a diogelwch cronfeydd dŵr yn Llywodraeth Cymru, a hefyd Madeline Rees, sydd yn gyfreithwraig gyda Llywodraeth Cymru. Croeso cynnes i’r tri ohonoch chi. Mi wnaf i gychwyn, os caf i, ac efallai gofyn cwestiwn ychydig bach yn gellweirus, ond mae'n gwestiwn digon dilys, dwi’n meddwl: pam mae angen y Bil?”
“Awn ni ymlaen, felly, at brif eitem ein cyfarfod ni y bore yma, sef—meddwn i, yn colli lle ydw i. Rŷn ni’n cychwyn ar y gwaith o graffu Cyfnod 1 ar y Bil Tomenni Mwyngloddiau a Chwareli Nas Defnyddir (Cymru), a gyflwynwyd i’r Senedd gan y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig yn gynharach yr wythnos yma. Ac er mwyn llywio’n gwaith craffu ni, rŷn ni wedi cyhoeddi hefyd alwad am dystiolaeth ysgrifenedig, felly os oes unrhyw un yn gwrando ar y cyfarfod yma, yna yn amlwg mae yna gyfle i chi gyfrannu at yr alwad yna am dystiolaeth, ac mae yna fanylion ar gael ar wefan y Senedd i chi wybod sut mae gwneud hynny. Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno’r dystiolaeth yw 17 Ionawr.”
“Mae hwn yn gyfarfod dwyieithog hefyd, ac felly mae yna gyfieithu ar y pryd ar gael o'r Gymraeg i'r Saesneg. Ond cyn inni fwrw iddi, a gaf i ofyn a oes gan unrhyw un fuddiannau i'w datgan? Nac oes. Dyna ni, iawn, ardderchog. Diolch yn fawr iawn.”
“Bore da a chroeso i chi i gyd i gyfarfod Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith yn Senedd Cymru. Croeso i Aelodau i gyfarfod olaf y tymor yma, ac felly fe wnaf i ddymuno Nadolig llawen i bawb ar y cychwyn, rhag ofn i fi anghofio ar y diwedd. Rŷn ni wedi derbyn ymddiheuriadau oddi wrth Joyce Watson, ac mi fydd Hefin David yn dirprwyo ar ei rhan. Mae hwn yn gyfarfod sydd yn cael ei gynnal ar fformat hybrid, ac mae yna ddau o’r Aelodau yn ymuno â ni o bell. Ar wahân i addasiadau yn ymwneud â chynnal y trafodion mewn fformat hybrid, mae'r holl ofynion eraill o ran y Rheolau Sefydlog yn aros yn eu lle. Mi fydd eitemau cyhoeddus y cyfarfod yma yn cael eu darlledu yn fyw ar Senedd.tv, ac mi fydd Cofnod o'r Trafodion, wrth gwrs, yn cael ei gyhoeddi, fel sydd yn digwydd yn arferol.”
“Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Er tryloywder, mae'n well i fi ddweud does gen i ddim tir i'w rhoi yn etifeddiaeth i unrhyw un, a dydw i ddim ychwaith yn derbyn neu'n disgwyl derbyn tir yn etifeddiaeth, ond mae gen i blant, wrth gwrs, a all, efallai, yn y dyfodol dderbyn etifeddiaeth o'r fath.”
“As we know, Cabinet Secretary, it is critical, of course, that Wales reaches its net-zero targets, but we are in a scramble to harness some of Wales's renewable energy potential. We're increasingly seeing multinational companies often riding roughshod over local communities in pursuit of planning approval. We're all well aware of the two proposed large-scale solar farms on Anglesey, sites that will gobble up around 3,700 acres of farmland. The biggest of these developments, of course, won't be consented in Wales due to its size, and the decision on its future is going to be sanctioned in Whitehall. So, does the Cabinet Secretary agree with me that consent for all energy projects should be devolved to Wales, so that it's Wales that decides on the best use of our natural resources?”
“5. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd prosiectau ynni adnewyddadwy ar raddfa fawr yng Ngogledd Cymru? OQ61952”
“A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad, a diolch iddo fe am amlinellu'r cyfraniad sylweddol y mae'r sector yn ei wneud? Ond rwy'n teimlo bod yn rhaid inni atgoffa ein hunain eu bod nhw'n cyflawni hyn er gwaethaf y toriadau dwfn iawn y maen nhw wedi'u profi fel sector, yn y gefnogaeth y maen nhw'n ei derbyn. Cyn credu'r hype , efallai fod yn rhaid inni atgoffa ein hunain eu bod nhw'n cyflawni hyn er gwaethaf yr amgylchiadau, nid oherwydd y sefyllfa y maen nhw'n ffeindio eu hunain ynddi. Yn wir, fel rhywun a oedd yn aelod o'r pwyllgor diwylliant, a dwi'n dal fel aelod nawr yn derbyn gohebiaeth yn wythnosol, bron iawn, gan fusnesau yn y sector, gan gyrff a mudiadau sydd yn esbonio sut maen nhw ar eu gliniau yn trio cyflawni'r hyn maen nhw eisiau ei gyflawni, ond yn ffeindio hynny'n gynyddol anoddach.”
“The transport Secretary, in fairness, says that he will review speed limits on trunk roads, but only after the new 'Setting Local Speed Limits in Wales' guidance is released. But, of course, we've been waiting for a very long time for that, and in the meantime there have been too many near misses in those communities, so can we have a statement giving us clarity on when that will be?”
“No, I shouldn't get distracted; you're quite right. Now, we can argue all of these issues individually and, individually, they are taking their toll, of course, but, cumulatively, they're hammering the sector, and we need to understand how is the Government taking all of this into consideration on that collective, cumulative level. I think a debate, maybe, an opportunity to delve into that, would certainly be something that would be valuable at a time of severe pressure for the sector. Can I also ask for a statement from the transport Secretary on reducing speed limits on trunk roads in Wales? Now, communities in my region—. And Glasfryn in Conwy county is one that has long waited for the Government to do something about this. They're desperate to make their community safer there.”
“—likewise, the problem of bovine TB. We're not here to score political points today; we're here to make a point about—[ Interruption .]—a need for a debate around the agricultural industry. If you want to play that game, that's up to you; I'm not playing that.”
“Trefnydd, could I ask for a statement, or maybe even a debate in Government time, on the cumulative impact of the multiple challenges facing the agricultural industry today? Now, obviously, agricultural property relief is maybe the straw that broke the camel's back, but, certainly, we have big changes in terms of the sustainable farming scheme, there are huge challenges for the sector in meeting the nitrate vulnerable zone regulations—”
“So, should this Government not be focusing on getting the existing offer of national parks right before trying to get ahead of yourselves and creating a new one?”
“We know, don’t we, that the creation of a new national park is in no way some sort of environmental silver bullet. We only have to look at the environmental outcomes within existing national parks to know that much. We also know that there are huge budgetary pressures on existing national parks who’ve seen significant cuts to their budgets in recent years. And we’ve also seen, as well, the consequences of insufficient infrastructure, when, of course, we want to extract as much benefit as we can for those local communities within those parks. We’re seeing huge, huge problems because of a lack of investment in the proper infrastructure in Eryri, Bannau Brycheiniog and Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro.”
“8 in another context isn’t so positive, because you rejected eight of our recommendations, which is more than we’re used to, I have to say. So, in that respect, that’s somewhat disappointing. But I note and welcome your reference to the coal-tip safety legislation being brought forward before Christmas. Well, do you know what else would be good before Christmas, maybe? Giving those communities who feel that they’ve been cheated on restoration the support that they need, and that is certainly something that we as a committee will continue to pursue. Diolch yn fawr.”
“And it is therefore as much an issue of social justice as anything else, having given so much over the years, to allow that work to happen. They’re now feeling, of course, that they’re just being fobbed off, as you say, and it is still happening. The Cabinet Secretary reminded us that he wants to see a structured approach— dull strwythuredig —but then, of course, we were reminded we have the Coal Authority, we have Natural Resources Wales, we have local government, the communities themselves, the companies who are involved, Government—and, of course, you reminded us, not just one Minister, two, three, maybe more Ministers as well. So, it’s difficult to see that united, co-ordinated approach, and bringing clarity to that in your response to recommendation No. 8 is positive. Although the No.”
“And picking up on a few points made by Members, the committee certainly hasn’t ignored other opencast sites. We’re very aware that similar challenges have been common and similar failures have been experienced, and, indeed, we had representatives from Margam to present oral evidence to us in committee, but Ffos-y-fran, of course, was playing out in real time before our eyes in terms of operations beyond their licence and it was very much the spur, I think, that made the committee decide that this was an area that really had to be considered. And Sioned Williams is right: this really should be a turning point. Plans have changed and evolved over time and public concern about water bodies, about the integrity and safety of some of these sites—they just don’t feel that their voices are being heard.”
“Diolch, Dirprwy Lywydd, and thank you to everybody who’s contributed to the debate. There were so many speakers, I think that reflects the strength of feeling across the Chamber and across many communities affected by these activities. I would go right back to the early contribution from the Conservative spokesperson: you’re right to say that collaboration is key on restoration, but I would say that keeping your promises is key on restoration as well, and that’s the crux of the issue here, frankly. Promises have been made and promises have been broken and public bodies have been impotent when it comes to holding people to account. Delyth Jewell described the situation as a debacle, an absence of clear accountability. Well, you know—. And as you say, accountability not only needs to be clarified, it needs to be enforced.”
“Yn anffodus, mae'n rhy hwyr i lawer o'r safleoedd glo brig a drafodir yn yr adroddiad hwn; mae'r difrod wedi’i wneud. Felly, rŷn ni wedi ceisio gwneud dau beth yn ein hadroddiad. Yn gyntaf, rŷn ni wedi edrych yn ôl ar y camgymeriadau a wnaed i wneud yn siŵr nad yw’r rheini yn cael eu hailadrodd a cheisio helpu'r preswylwyr lleol sy’n dal i fyw gyda’r canlyniadau. Yn ail, mae ein hadroddiad ni yn edrych tua’r dyfodol. Gyda chyfleoedd a thechnolegau newydd yn dod i’r amlwg, sut y gallwn ni sicrhau nad yw’r patrwm o ecsbloetio cymunedau lleol yn cael ei ailadrodd?”
“Pan oedd yn gwbl weithredol, mi oedd hyd at filiwn o dunelli o lo yn cael ei symud bob blwyddyn o’r safle i Aberddawan ac yna'n ddiweddarach i’r gwaith dur ym Mhort Talbot. A dwi'n ddiolchgar i weithredwyr y safle am ein croesawu ni ar ein hymweliad. Er bod rhan fawr o’n hadroddiad ni yn ymdrin ag adfer Ffos-y-frân, bydd yr Aelodau, wrth gwrs, yn gwybod bod yr un stori wedi’i hailadrodd mewn safle ar ôl safle yn ne Cymru. Ym mhob un o’r achosion y gwnaethon ni edrych arnyn nhw, nid yw’r gwaith adfer wedi bod yn agos at yr hyn a addawyd. Rŷn ni wedi gweld cwmnïau—yr un cwmni weithiau—yn ei heglu hi dro ar ôl tro heb gadw at eu hochr nhw o’r fargen. Mae methiannau adfer wedi golygu colledion i'r pwrs cyhoeddus sy’n cyfateb i gannoedd o filiynau o bunnoedd ac mae hynny wedi cael effaith sylweddol, wrth gwrs, hefyd, ar breswylwyr lleol.”
“Diolch o galon, Dirprwy Lywydd. Mae’r ddadl hon, wrth gwrs, yn gyfle inni ystyried perthynas gymhleth Cymru â glo. Er bod y diwydiant yn hanesyddol wedi dod â rhai manteision economaidd i ni, mae wedi gadael, wrth gwrs, creithiau dwfn ar ein tirwedd a hefyd ar ein cymunedau ni. Roedd cau Ffos-y-frân ddiwedd y llynedd yn nodi diwedd y bennod ddiweddaraf honno yn yr hanes hwn. Fel safle glo brig olaf Cymru, mae wedi bod yn destun cryn ddiddordeb gan y cyhoedd ac mae’n un o’r prif bethau y mae adroddiad y pwyllgor wedi canolbwyntio arno fe. Fel pwyllgor, fe wnaethom ni ymweld â'r safle’r wythnos diwethaf ac mi roddodd hynny well dealltwriaeth i ni o’r materion y buon ni'n eu trafod yng nghwrs yr ymchwiliad. Y prif beth dwi'n siŵr fydd yn aros gyda fi, a dwi'n siŵr nifer o gyd-aelodau'r pwyllgor, yw gwerthfawrogiad o faint y safle.”
“Ond y tu hwnt i Gymru hefyd, fe ddaeth llwyddiant i’r ffermwyr ifanc yng ngwobrau cymunedol Prydeinig clybiau'r ffermwyr ifanc, a gynhaliwyd yn Birmingham yn ddiweddar. Un o sêr ffermwyr ifanc ardal Uwchaled, Ceridwen Edwards, a ddaeth i’r brig yng nghategori 'Calon y CFfI', gyda'r beirniaid wrth eu bodd efo egni a gwaith di-flino Ceridwen dros ei chlwb. Un arall o lwyddiannau mawr y noson oedd Clwb Ffermwyr Ifanc Llangwyryfon yng Ngheredigion. Nhw enillodd wobr 'Ysbryd Cymunedol Ffederasiwn Cenedlaethol Clybiau Ffermwyr Ifanc', gyda chanmoliaeth am rôl y clwb wrth helpu i achub y neuadd bentref leol, a'u cyfraniad at hyfywedd yr iaith Gymraeg. Mae gan glybiau ffermwyr ifanc Cymru dros 5,500 o aelodau, a'r rheini yn cyflawni dros filiwn o oriau gwaith gwirfoddol yn flynyddol.”
“Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Dwi am ddefnyddio'r cyfle yma i longyfarch clybiau ffermwyr ifanc Cymru ar eu llwyddiant yn eisteddfod y ffermwyr ifanc a gynhaliwyd yng Nghaerfyrddin yr wythnos diwethaf. Fe ddaeth nifer o gystadleuwyr i’r brig, yn cynnwys llawer un o’m rhanbarth i yn y gogledd, mewn meysydd mor amrywiol â’r ensemble lleisiol, lle cipiodd Clwb Rhosybol yn Ynys Môn y wobr gyntaf, Hawys Grug o Glwyd yn ennill yr unawd ieuenctid, a Mared Edwards o Fôn yn ennill y gystadleuaeth adrodd digri. Llongyfarchiadau mawr hefyd i Mared Fflur Jones o Ynys Môn ar ennill y gadair, ac i Elain Iorwerth, sydd yn astudio ym Mhrifysgol Bangor, ar ennill y goron. Mae llwyddiant ysgubol yr eisteddfod unwaith eto eleni yn deyrnged i rôl hanfodol y mudiad fel un o gonglfeini cefn gwlad, diwylliant Cymreig a'r iaith Gymraeg.”
“So, the question here is: will the Welsh Government, therefore, commit to publishing a comprehensive analysis of the possible impacts of the new APR threshold for all farm sizes and categories to answer the question that you've actually posed here yourself? And that, of course, doesn't include, then, the smallholdings and the other holdings that your own Government excluded from your economic impact assessment for the sustainable farming scheme.”
“The area of the farms considered in that report equates to an average farm value that’s well over double the proposed £1 million agricultural property relief threshold, equating to an inheritance tax bill that could actually be six times or more the average annual income of livestock farmers in Wales. So, the First Minister says that a very small proportion of Welsh farms would be affected. You've said that you don't have the figures to be able to quantify that, so I'm not sure where the First Minister got the figure. But, your own figures, published less than 12 months ago, suggest a very different picture—that a vast number of farms in Wales would not only be affected, but they won't be, actually, in a position to be able to afford to pay the tax bill.”
“And the question is: will you be making those representations as well? Now, you’re right—the nature of farms between England and Wales is very different. I’ve actually been looking at some of the Welsh Government’s own figures. The sustainable farming scheme’s economic impact assessment, published at the end of last year, considers the farms responsible for around 84 per cent of Wales’s total utilised agricultural area, 89 per cent of Welsh agricultural standard output, and 93 per cent of total grazing livestock—so, basically, working farms in Wales.”
“They presented recommendations to us to present to you as a Government, including calling for a requirement for supply chains to be free from deforestation, supporting indigenous peoples in the Welsh Government's international strategy, supporting and promoting opportunities to learn between our respective nations, and also encouraging Welsh public sector pension funds to make sure that any lending or investments are free not only from fossil fuel, but from deforestation as well. So, could we have a statement from the Government responding to those calls from the Wampís Nation, in the hope, of course, that we can play our part more effectively in facing up to the climate change challenge that so many people are experiencing in that part of the world?”
“Now, as was bravely highlighted, of course, by Sir Chris Hoy in recent weeks, in most cases there are no symptoms and by the time someone does present with symptoms, then the cancer will be much more advanced and potentially incurable. Now, I understand that the current risk of prostate cancer is one in eight men; if there is a family history, it's one in three. So, will the Welsh Government, please, take heed of Sir Chris Hoy's calls and look again at your position on prostate cancer screening in Wales? This afternoon, I had the honour of meeting representatives of the Wampís Nation, an indigenous people living in the Peruvian Amazon, who are in the front line of the battle against climate change.”
“Can I ask for a statement from the Cabinet Secretary for health on the Welsh Government's position on prostate cancer screening in Wales? Currently, of course, there is no provision for screening in Wales and similarly in other parts of the UK, despite, of course, prostate cancer being the most common cancer amongst men. Now, according to the cancer charity Prostate Cymru, the outdated NHS guidelines are actually putting lives at risk because, despite all men aged over 50 being entitled to a free prostate-specific antigen test, and younger, of course, if there's a family history of it, GPs are actually told not to raise the subject with men unless they have symptoms.”
“Diolch ichi am yr ateb. Yn dilyn cais rhyddid gwybodaeth, dwi wedi cael fy syfrdanu, a dweud y gwir, gan y lefel o aros y mae plant yn y gogledd yn gorfod ei wneud. Mae 62 y cant o'r holl blant sydd wedi cael eu 'refer-io' am asesiad wedi gorfod aros dros flwyddyn am yr asesiad hwnnw. Mae 50 o blant wedi bod yn aros dros bedair blynedd, ac mae un plentyn wedi aros dros bum mlynedd a hanner am yr asesiad. Nawr, mae hynny’n hirach na gyrfa ysgol uwchradd y rhan fwyaf o ddisgyblion. Mae'r plant yma yn amlwg yn cael eu gadael i lawr—ie, gan y bwrdd iechyd, ond hefyd, os caf i ddweud, gan eich Llywodraeth chi, am fethu â mynd i'r afael â'r sefyllfa. Felly, pa mor fuan y gwelwn ni hyn yn newid, oherwydd dyma rai o blant mwyaf bregus Cymru ac maen nhw wedi blino aros, Prif Weinidog, ac maen nhw’n haeddu gwell?”
“4. Beth y mae'r Llywodraeth yn ei wneud i fynd i'r afael â'r mater o amseroedd aros ar gyfer asesu plant am gyflyrau niwroddatblygiadol fel awtistiaeth ac ADHD yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr? OQ61861”