Siân Gwenllian
Constituency Member · Plaid Cymru · Wales
“Rydw innau hefyd yn croesawu gweld cyflwyno'r Bil yma. Mi fyddai arian y lefi yn fuddiol iawn ar gyfer gwella profiadau ymwelwyr a bywydau pobl leol mewn sawl cymuned yn Arfon, o'r cymunedau o gwmpas yr Wyddfa, i lannau'r Fenai.”
“Rydw i’n deall bod llawer o waith i’w wneud ar y Bil cyntaf yma, ond mae’r ail Fil yn bwysig hefyd, yn bwysig ar gyfer gwella diogelwch ymwelwyr, creu cyfartaledd rhwng gwahanol fathau o lety o fewn y diwydiant, a gwarchod y stoc tai lleol rhag troi yn asedau masnachol yn hytrach nag yn gartrefi.”
“Trefnydd, roeddwn innau'n falch o fod yn y digwyddiad Rhuban Gwyn neithiwr, a dwi'n diolch i Joyce Watson a Ffederasiwn Cenedlaethol Sefydliadau'r Merched am drefnu'r digwyddiad hynod bwerus ac effeithiol hynny. Mae'n rhaid i ni ddyblu, treblu ein hymdrechion ni i ddileu trais yn erbyn menywod.”
“Mae yna 164 o bobl ifanc cyn belled wedi manteisio ar y cynllun Academi Adra, ond mae ei ddyfodol o yn y fantol oherwydd bod yna ansicrwydd ynghylch y gronfa shared prosperity , sy'n creu'r posibilrwydd o cliff edge hollol ddiangen ar gyfer y cynllun yma. Felly, gawn ni eglurder?”
“Ddoe, wrth drafod adroddiad blynyddol Comisiynydd y Gymraeg a'i rôl hi mewn datblygu polisi, fe wnes i grybwyll pwysigrwydd sicrhau nad yw un agwedd o waith polisi'r Llywodraeth yn tanseilio gwaith polisi arall.”
“Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd, a dwi'n croesawu'r cyfle i ymateb i'r datganiad heddiw ar ddiogelwch adeiladau, testun sy'n cario pwysigrwydd ac arwyddocâd enfawr, yn enwedig yng ngoleuni'r gwersi trasig a ddysgwyd o'r tân yn Nhŵr Grenfell.”
The complete record
Every one of 16 lines we hold for Siân Gwenllian, in date order, each linked to its source. Free to read, in full, without an account.
“Rydw i’n deall bod llawer o waith i’w wneud ar y Bil cyntaf yma, ond mae’r ail Fil yn bwysig hefyd, yn bwysig ar gyfer gwella diogelwch ymwelwyr, creu cyfartaledd rhwng gwahanol fathau o lety o fewn y diwydiant, a gwarchod y stoc tai lleol rhag troi yn asedau masnachol yn hytrach nag yn gartrefi. Felly, wnewch chi gadarnhau amserlen yr ail Fil, y dyddiad cyflwyno, a’r dyddiad gweithredu hefyd?”
“Rydw innau hefyd yn croesawu gweld cyflwyno'r Bil yma. Mi fyddai arian y lefi yn fuddiol iawn ar gyfer gwella profiadau ymwelwyr a bywydau pobl leol mewn sawl cymuned yn Arfon, o'r cymunedau o gwmpas yr Wyddfa, i lannau'r Fenai. Dwi'n falch hefyd o weld cyflwyno'r gofrestr llety gwyliau, a fydd yn ffynhonnell data pwysig all gynorthwyo gyda phenderfyniadau polisi i’r dyfodol. Mae’r gofrestr yn angenrheidiol ar gyfer Bil arall hefyd, onid ydy, sef y Bil trwyddedu statudol ar gyfer llety gwyliau tymor byr. Rydych wedi dweud y byddwch chi'n cyflwyno’r ail Fil cyn diwedd tymor y Senedd. Beth yn union fydd yr amserlen ar gyfer cyflwyno’r ail Fil?”
“Mae yna 164 o bobl ifanc cyn belled wedi manteisio ar y cynllun Academi Adra, ond mae ei ddyfodol o yn y fantol oherwydd bod yna ansicrwydd ynghylch y gronfa shared prosperity , sy'n creu'r posibilrwydd o cliff edge hollol ddiangen ar gyfer y cynllun yma. Felly, gawn ni eglurder? Mae hwnnw'n angenrheidiol, nid yn unig i'r cynllun yma, ond i nifer fawr ar draws Cymru ar hyn o bryd.”
“Trefnydd, roeddwn innau'n falch o fod yn y digwyddiad Rhuban Gwyn neithiwr, a dwi'n diolch i Joyce Watson a Ffederasiwn Cenedlaethol Sefydliadau'r Merched am drefnu'r digwyddiad hynod bwerus ac effeithiol hynny. Mae'n rhaid i ni ddyblu, treblu ein hymdrechion ni i ddileu trais yn erbyn menywod. Gaf i ofyn am ddatganiad ar fater arall, gan yr Ysgrifennydd Cabinet dros yr economi? Mae angen eglurder am ddyfodol y grant shared prosperity . Mae eisiau eglurder am lefel y grantiau, y meini prawf, sut y bydd o'n cael ei weinyddu yng Nghymru, a nifer o gwestiynau eraill sy'n codi i'r meddwl ynghylch hyn hefyd. Mae yna nifer o gynlluniau yn Arfon sydd yn wynebu cyfnod ansicr iawn. Mi wnaf i roi un esiampl i chi, sef Academi Adra ym Mhenygroes—cynllun arloesol sydd yn hyfforddi pobl ifanc mewn sgiliau newydd yn y maes adeiladwaith a'r maes tai.”
“Beth, felly, ydy'ch gweledigaeth chi, fel Ysgrifennydd Cabinet dros y Gymraeg, o safbwynt yr ardaloedd o arwyddocâd ieithyddol dwysedd uchel, a beth ydy'ch gweledigaeth chi ar gyfer Arfor 3, sef y cam nesaf synhwyrol i'w gymryd efo'r cynllun arloesol hwn?”
“Ddoe, wrth drafod adroddiad blynyddol Comisiynydd y Gymraeg a'i rôl hi mewn datblygu polisi, fe wnes i grybwyll pwysigrwydd sicrhau nad yw un agwedd o waith polisi'r Llywodraeth yn tanseilio gwaith polisi arall. Un arall o'r meysydd lle mae potensial am wrthdaro mawr yw gyda'r cynllun datblygu cenedlaethol 'Cymru'r Dyfodol', a'r gwaith o ddatblygu cynlluniau datblygu strategol drwy'r cydbwyllgorau corfforedig. Byddwn yn gofyn i'r Llywodraeth ailystyried yr egwyddorion sydd yn gyrru'r gwaith, oherwydd bod peryg i'r cynlluniau strategol rhanbarthol filwrio yn erbyn gwaith polisi pwysig sy'n digwydd drwy'r Comisiwn Cymunedau Cymraeg, a hefyd ym milwrio yn erbyn cynllun Arfor, sydd yn uno ardaloedd gorllewin ein gwlad.”
“7. Ydy'r Llywodraeth yn bwriadu diweddaru Cymru’r Dyfodol: Y Cynllun Cenedlaethol 2040 i ymgorffori ardaloedd o arwyddocâd ieithyddol dwysedd uwch yn dilyn argymhellion y Comisiwn Cymunedau Cymraeg? OQ61833”
“A throi at yr ail fater, sef y safonau, mewn llythyr a gefais i gan Eluned Morgan ddiwedd yr haf, pan oedd hi’n Ysgrifennydd Cabinet dros y Gymraeg, roedd hi yn dweud mai’r flaenoriaeth gan y Llywodraeth o ran ymestyn trefn safonau’r Gymraeg ydy eu hymestyn nhw i’r sectorau cymdeithasau tai a thrafnidiaeth gyhoeddus. Tybed a fedrwch chi roi diweddariad i ni ar y gwaith hwnnw. Mae’r llythyr hefyd yn dweud bod y Llywodraeth wedi cychwyn ystyried pa sectorau y dylid eu blaenoriaethu ar ôl cyfnod y Senedd yma. Ydy’r gwaith yma’n parhau ac a fedrwch chi roi syniad o beth mae’r gwaith hwn wedi'i adnabod fel sectorau o flaenoriaeth ar gyfer y Senedd nesaf? Mi fyddwch chi’n ymwybodol iawn ein bod ni wedi cael ymrwymiad rhwng ein dwy blaid ni i lunio rhestr gyflawn i gwblhau’r gwaith o gyflwyno safonau’r Gymraeg.”
“Wrth ddiolch am yr adroddiad, dwi eisiau codi dau fater, os gwelwch yn dda. Amcan 2 y comisiynydd ydy sicrhau bod y Gymraeg yn cael ei hystyried mewn polisi a deddfwriaeth, ac rydych chi wedi sôn am hynny. Mae’r Comisiwn Cymunedau Cymraeg, dan gadeiryddiaeth Simon Brooks, yn annog y Llywodraeth i alluogi penderfyniadau am anghenion tai lleol ar lefel micro, sy’n ymateb i anghenion lleol, yn hytrach nag arddel polisïau rhanbarthol neu genedlaethol yn unig. Gaf i jest dynnu eich sylw chi at ddisgord posib allai godi rhwng argymhellion y Comisiwn Cymunedau Cymraeg ym maes tai a’r ddeddfwriaeth ddigartrefedd sydd ar y gweill, a hynny o gwmpas y rheol cysylltiad lleol? Dwi ddim yn mynd i fanylu ar hyn rŵan, ond a gaf i eich annog chi, Ysgrifennydd Cabinet, i edrych ar hyn er mwyn osgoi gwrthdaro rhwng dau bolisi i’r dyfodol?”
“Dwi yn annog y Gweinidog i gadw tryloywder a’r angen am y newidiadau strwythurol mawr yma ar waith er mwyn sicrhau tryloywder, atebolrwydd a digon o adnoddau ar bob cam o’r diwygiadau hollbwysig yma.”
“Dŷch chi wedi dechrau trafod hyn, ond a fedrwch chi ymhelaethu ar ba gamau sy’n cael eu cymryd i fynd i’r afael â’r bylchau gweithlu mewn rheolaeth adeiladau, a hefyd y gwaith sydd yn digwydd o ran sefydlu meincnodau cenedlaethol a mesurau canlyniad ar gyfer diogelwch adeiladau? Mae’r mater yma’n ymwneud â bywydau pobl, eu cartrefi a’u heddwch meddwl. Mae angen i Lywodraeth Cymru ymrwymo i gynllun cadarn sydd yn mynd i’r afael nid yn unig â’r angen brys am waith atgyweirio, ond hefyd efo’r newidiadau strwythurol a deddfwriaethol ehangach sydd eu hangen i sicrhau nad ydy methiannau o’r fath yn cael eu hailadrodd. Dwi’n falch, felly, o glywed y symudiadau o ran yr ochr ddeddfwriaethol.”
“A fedrith y Gweinidog gadarnhau a fydd yna gyllid canlyniadol ar gael i Gymru, ac os felly, faint? Mae angen atebion clir yma, gan sicrhau digon o gyllid fydd yn penderfynu a ellir cwblhau’r gwaith atgyweirio i’r safon angenrheidiol ac o fewn amserlen resymol. Mae’n rhaid inni osgoi unrhyw sefyllfa lle mae diffyg ariannol yn gadael rhai adeiladau’n anniogel. Yn olaf, dwi hefyd yn mynd i sôn am adroddiad diweddar Archwilio Cymru, ‘Craciau yn y Sylfeini’. Mae yna lawer o waith o hyd i’w wneud i gyflawni fframwaith diogelwch adeiladau effeithiol a chynaliadwy yng Nghymru. Mae adroddiad yr archwilydd yn tynnu sylw at yr angen am systemau sicrwydd gwell, a chynllunio gweithlu digonol—y ddau yn hanfodol i gyflawni’r safonau uchel sydd eu hangen.”
“Felly, sut bydd Llywodraeth Cymru yn monitro ac yn gorfodi cynnydd efo'r gwaith atgyweirio yma i sicrhau ei fod o'n cael ei gyflawni, a hynny o fewn yr amserlen ofynnol? Mae llawer o denantiaid a thrigolion wedi bod yn byw o dan gymylau ansicrwydd a risg ers gormod o amser, felly nid yn unig mae angen sicrhau bod datblygwyr yn cadw at eu hymrwymiadau, ond hefyd fod gan y Llywodraeth ganlyniadau clir ar gyfer unrhyw ddatblygwr sy'n methu â chyrraedd y safonau. Felly, mi fyddwn i'n hoffi clywed pa gamau fydd yn cael eu cymryd yn achos unrhyw ddatblygwr sy'n methu â chyflawni ei gyfrifoldebau yn brydlon. Mae cyllid yn amlwg yn ganolog i lwyddiant yr ymdrechion yma i gyd yn y maes yma, a dŷn ni’n gwybod bod cyllideb ddiweddar Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi dyrannu arian ychwanegol ar gyfer diogelwch adeiladau.”
“Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd, a dwi'n croesawu'r cyfle i ymateb i'r datganiad heddiw ar ddiogelwch adeiladau, testun sy'n cario pwysigrwydd ac arwyddocâd enfawr, yn enwedig yng ngoleuni'r gwersi trasig a ddysgwyd o'r tân yn Nhŵr Grenfell. Mae'n hanfodol cadw golwg ar effaith y gwaith hwn ar fywydau preswylwyr, ac ar bwysigrwydd ymagwedd dryloyw a thrylwyr tuag at ddiogelwch adeiladau yma yng Nghymru. Yn gyntaf, mi hoffwn i groesawu'r cytundebau diweddar sydd wedi'u harwyddo gyda datblygwyr i sicrhau bod gwaith atgyweirio yn cael ei wneud ar adeiladau risg uchel. Dwi'n falch o glywed bod cwmni Watkin Jones wedi arwyddo'r cytundeb o'r diwedd, a dwi'n gobeithio, felly, gweld cynnydd buan iawn i'r gwaith o ddiogelu eiddo yn Noc Fictoria, Caernarfon, yn fy etholaeth i. Fodd bynnag, mae llwyddiant y cytundebau yma yn dibynnu ar atebolrwydd.”
“Dwi’n parhau i gredu, fel mae nifer cynyddol o bobl, mai ymchwiliad cyhoeddus fyddai’r ffordd orau a thecaf o ymdrin â’r sefyllfa yma, yn enwedig gan ystyried honiadau pellach a ddatgelwyd mewn rhaglen deledu yn ddiweddar. Gennych chi fel Llywodraeth mae’r grym i gomisiynu—”
“Dwi wedi cael gwybod am bryderon gan etholwyr ynglŷn â’r broses gyfathrebu ar gyfer rhieni a phobl ifanc sy’n dymuno rhannu gwybodaeth efo bwrdd diogelu gogledd Cymru fel rhan o’r adolygiad ymarfer plant rydych chi’n sôn amdano fo, yn dilyn euogfarn y cyn-bennaeth Neil Foden o droseddau rhyw yn erbyn plant ysgol. Ydych chi’n hyderus bod yr ymateb yn briodol ac yn amserol i’r rhai sydd am ddarparu gwybodaeth neu am rannu pryderon? Yn ail, ydy cylch gorchwyl yr adolygiad diogelu plant wedi cael ei gyhoeddi eto? Mae hyn yn hanfodol er mwyn sicrhau tryloywder ac ymddiriedaeth yn broses. Os nad ydy o wedi cael ei gyhoeddi erbyn hyn, pryd fydd o’n cael ei gyhoeddi a beth oedd y rheswm dros yr oedi?”