Cefin Campbell
Regional Member · Plaid Cymru · Wales
“Will you take an intervention? Thank you. There are genuine concerns about the effect of the national insurance contributions on small businesses. You've reiterated the fact that we have heard so many mention today—that they are so important to our towns and communities across Wales.”
“A gaf i groesawu'r datganiad hwn yn fawr iawn? Fel mae'n digwydd, pan oeddwn i'n Aelod dynodedig yn rhan o'r cytundeb cydweithio, fi oedd yn gyfrifol am y maes polisi hwn. Gallaf dystio i'r gwaith caled mae'r swyddogion wedi ei wneud i edrych yn fanwl iawn ar esiamplau ar draws y byd o arfer da.”
“Diolch yn fawr iawn i chi. Wel, roeddwn i yn y ffair aeaf yn Llanelwedd ddoe, ac, fel bob tro, roedd e’n ddathliad gwirioneddol wych o fywyd cefn gwlad a’n cynnyrch tymhorol arbennig. Ond fyddwch chi ddim yn synnu clywed bod yna lawer iawn o bryder ymhlith y sector hefyd ynglŷn â’r newidiadau diweddar i’r dreth etifeddiaeth.”
“Ond y pwynt dwi eisiau ei wneud yw hyn: mae yna gost i awdurdodau lleol o ddelio ag effaith twristiaeth o ran glanhau'r strydoedd, glanhau'r sbwriel, gwella'r ffyrdd, gwella cyfleusterau cyhoeddus, llwybrau cyhoeddus ac yn y blaen.”
“Dwi’n poeni y bydd effaith cyllideb Rachel Reeves yn arbennig o wael i’n ffermydd teuluol ni yng Nghymru. Gan ystyried mai dim ond ryw £18,000 yw cyflog cyfartalog ffermwyr mynydd, er enghraifft, fel yn y byd y mae modd iddyn nhw dalu’r treth etifeddiaeth ar gyflog mor isel?”
“A dim ond wythnos diwethaf y clywsom ni’r newyddion fod Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn bwriadu symud eu cyrsiau israddedig o gampws Llanbed i Gaerfyrddin, a fydd o bosibl yn dod â hanes dros ddwy ganrif o addysg uwch yn Llanbed i ben.”
The complete record
Every one of 25 lines we hold for Cefin Campbell, in date order, each linked to its source. Free to read, in full, without an account.
“Will you take an intervention? Thank you. There are genuine concerns about the effect of the national insurance contributions on small businesses. You've reiterated the fact that we have heard so many mention today—that they are so important to our towns and communities across Wales. Have you made an assessment of the impact of this on Welsh businesses, and if you have, could you share that information with us? And do you know as well how much of that money will return to Wales through the Barnett formula, or any other formula, so that we know whether Wales will actually benefit from that national insurance contribution?”
“Ond y pwynt dwi eisiau ei wneud yw hyn: mae yna gost i awdurdodau lleol o ddelio ag effaith twristiaeth o ran glanhau'r strydoedd, glanhau'r sbwriel, gwella'r ffyrdd, gwella cyfleusterau cyhoeddus, llwybrau cyhoeddus ac yn y blaen. Nawr, dylai cyn-arweinydd cyngor fod yn deall beth yw'r gost hynny, felly rwy'n hapus iawn fod y gost yn cael ei rhannu, a dyna'r cynnig ger bron fan hyn. Un awgrym bach i gloi, os y caf i, Dirprwy Lywydd. A oes modd annog awdurdodau lleol i sicrhau bod llais y sector yn cael ei glywed pan fydd penderfyniadau yn cael eu gwneud ynglŷn â sut mae gwario'r arian, er mwyn gwella'r profiad yna i dwristiaid?”
“A gaf i groesawu'r datganiad hwn yn fawr iawn? Fel mae'n digwydd, pan oeddwn i'n Aelod dynodedig yn rhan o'r cytundeb cydweithio, fi oedd yn gyfrifol am y maes polisi hwn. Gallaf dystio i'r gwaith caled mae'r swyddogion wedi ei wneud i edrych yn fanwl iawn ar esiamplau ar draws y byd o arfer da. Maen nhw wedi edrych i weld beth sy'n gweithio, maen nhw wedi ymgynghori gyda'r sector, fel rŷch chi wedi'i ddweud, a gydag awdurdodau lleol, ac wedi cynnal arolygon barn. Rwy'n gwbl ffyddiog erbyn hyn fod y levy sy'n cael ei gynnig yn un teg a chytbwys iawn. Hynny yw, mae'r ymateb gan y Torïaid yn afresymol. Hynny yw, rŷn ni'n sôn am ddau berson yn aros un noson am bris paned o goffi i un person. Felly, mae'n rhaid i ni fod yn gytbwys o ran sut ŷn ni'n ymateb.”
“Dwi’n poeni y bydd effaith cyllideb Rachel Reeves yn arbennig o wael i’n ffermydd teuluol ni yng Nghymru. Gan ystyried mai dim ond ryw £18,000 yw cyflog cyfartalog ffermwyr mynydd, er enghraifft, fel yn y byd y mae modd iddyn nhw dalu’r treth etifeddiaeth ar gyflog mor isel? Felly, mae’n peri pryder i mi nad oes asesiad effaith penodol wedi cael ei wneud ar hyn. Wedyn, a gaf i ofyn i chi, felly, ymrwymo i gynnal asesiad o’r fath, a hynny ar fyrder?”
“Diolch yn fawr iawn i chi. Wel, roeddwn i yn y ffair aeaf yn Llanelwedd ddoe, ac, fel bob tro, roedd e’n ddathliad gwirioneddol wych o fywyd cefn gwlad a’n cynnyrch tymhorol arbennig. Ond fyddwch chi ddim yn synnu clywed bod yna lawer iawn o bryder ymhlith y sector hefyd ynglŷn â’r newidiadau diweddar i’r dreth etifeddiaeth. Nawr, mae’n amlwg i mi nad yw’r Trysorlys wedi gwneud eu gwaith cartref ar y newidiadau maen nhw’n eu hargymell. Yn ôl dadansoddiad gan arbenigwr treth, sef Dan Neidle, nid yw’r cynigion yn mynd yn ddigon pell o ran targedu’r miliwnyddion sy’n prynu tir er mwyn osgoi talu treth. Ond ar y llaw arall, maen nhw’n mynd yn rhy bell o ran cosbi’r ffermwyr go iawn—hynny yw, y bobl sy’n gwneud bywoliaeth o’r tir ac yn gofalu amdano.”
“1. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith y newidiadau i'r dreth etifeddiant ar ffermydd Cymru? OQ61918”
“Heb os, fe all y costau ychwanegol hyn wthio ein sefydliadau addysg uwch dros y dibyn, lle mae'n bosibl na fydd ffordd nôl iddyn nhw, a hyn er eu bod nhw'n chwarae rôl allweddol o ran paratoi ein pobl ifanc ni ar gyfer y byd gwaith a chyfrannu i ffyniant economi Cymru yn y dyfodol. Dwi’n ymbil arnoch chi, fel Llywodraeth, i ddefnyddio pob dylanwad sydd gyda chi yn San Steffan i adleisio pryderon difrifol ein prifysgolion ni a sicrhau bod ganddyn nhw ddyfodol ariannol diogel sy’n adlewyrchu eu cyfraniad cwbl allweddol nhw i ddyfodol ein cenedl.”
“Ond trwy’r mesurau a gyhoeddwyd yn ystod y gyllideb, mae’r blaid Lafur yn San Steffan, partner Llywodraeth Cymru fan hyn, wedi anwybyddu’n llwyr y rhybuddion clir y mae prifysgolion wedi bod yn eu hamlygu ers sbel am y sefyllfa ariannol ddifrifol a hollol anghynaliadwy yn y sector. Yn ôl amcangyfrifon cychwynnol, bydd y cynnydd yng nghyfraniadau yswiriant gwladol yn golygu cost ychwanegol blynyddol o ryw £20 miliwn i'n prifysgolion ni yma yng Nghymru—dros £1.5 miliwn i Aberystwyth, bron i £2 filiwn ym Mangor, £4 miliwn yn ychwanegol i Abertawe a £7 miliwn ychwanegol i Gaerdydd, i nodi dim ond rhai enghreifftiau.”
“A dim ond wythnos diwethaf y clywsom ni’r newyddion fod Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn bwriadu symud eu cyrsiau israddedig o gampws Llanbed i Gaerfyrddin, a fydd o bosibl yn dod â hanes dros ddwy ganrif o addysg uwch yn Llanbed i ben. Ac yn y cyfamser, mae prifysgolion Cymru yn ei gweld hi’n anodd denu digon o fyfyrwyr i wrthbwyso’r cynnydd o ran costau gweithredu dros y blynyddoedd diwethaf. Er enghraifft, mae Bangor yn wynebu diffyg o £9 miliwn o ganlyniad i gwymp o ryw 7 y cant yn y nifer o ymgeiswyr israddedig o’i gymharu â llynedd, a chwymp o 50 y cant o ran ymgeiswyr uwchraddedig. Mae'n glir felly, yn awr, yn fwy nag erioed, rŷn ni angen Llywodraeth sydd yn barod i sefyll cornel ein prifysgolion ni, a hynny’n gadarn er mwyn cynnig y datrysiadau blaengar fyddai’n sicrhau eu dyfodol hirdymor nhw.”
“Fel mae Rhun wedi nodi eisoes, does dim amheuaeth fod prifysgolion Cymru ar hyn o bryd yn wynebu’r argyfwng mwyaf difrifol yn eu hanes. Ac mae’n werth i ni adlewyrchu ar y sefyllfa bresennol yn gyntaf cyn i ni drafod goblygiadau y newidiadau sydd ar ddod drwy’r codiad mewn yswiriant gwladol. Yn ddiweddar, rŷn ni wedi gweld Prifysgol Caerdydd yn gorfod cyflwyno rhaglen o ddiswyddiadau er mwyn ymateb i dwll o ryw £30 miliwn yn eu cyllideb. Mae Aberystwyth wedi cyflwyno rhaglen yn yr un modd i lenwi twll o ryw £15 miliwn yn eu cyllideb, tra bod Abertawe eisoes wedi gorfod cael gwared o ryw 240 o aelodau staff oherwydd pwysau ariannol tebyg.”
“Felly, dwi’n siŵr byddech chi, fel yr Ysgrifennydd Cabinet, a phawb yn y Siambr yn cytuno bod yn rhaid i ni wneud mwy i fynd i'r afael â'r profiadau ofnadwy yma mae rhai plant yn eu dioddef. Felly, a fyddwch chi, fel Ysgrifennydd Cabinet, yn ystyried yr argymhellion a geir yn yr adroddiad gan y comisiynydd plant ar y mater yma, wrth ddiweddaru’r canllawiau newydd ar wrth-fwlio? Diolch yn fawr iawn.”
“Yn olaf, i gloi, mae hiliaeth mewn ysgolion hefyd yn fater sydd yn anffodus wedi gwaethygu dros y blynyddoedd diwethaf. Mewn adroddiad gan y comisiynydd plant yn ddiweddar ar brofiad plant o hiliaeth, rhannwyd nifer o brofiadau erchyll gan ddisgyblion ar draws Cymru. Yn fy rhanbarth i, er enghraifft, dywedodd un person ifanc, a dwi'n dyfynnu, 'Cafodd fy ffrind sydd â chroen tywyllach na fi ei bwlio llawer, byddai pobl yn defnyddio'r gair N—yr N-word —yn ei herbyn hi.' A dywedodd unigolyn arall, a dwi'n dyfynnu eto, 'Dywedodd rhywun eu bod nhw ddim eisiau i fi eistedd drws nesaf iddyn nhw oherwydd lliw fy nghroen i. Fe wnes i jest symud i ffwrdd.' Mae hynny'n gwbl, gwbl annerbyniol yn ein hysgolion ni.”
“Fe ddywedodd, ‘Os wyt ti heb y wisg ysgol gywir, rwyt ti’n cael slip gwisg ysgol i fynd adref, ac os nad yw’r wisg yn cael ei chywiro, rwyt ti’n cael pwynt ymddygiad negyddol sy’n gallu codi i gael dy gadw i mewn ar ôl ysgol.’ Mae’n annerbyniol yn fy marn i fod disgyblion yn derbyn cosb fel hyn o ganlyniad i ddiffyg cydymffurfiaeth â pholisi gwisg ysgol, sydd yn gallu bod yn gostus i’r rhai sydd yn byw mewn tlodi. Felly, a fyddech chi fel Llywodraeth yn ystyried sicrhau bod gan bob ysgol fannau ailgylchu gwisg ysgol? A pha gefnogaeth arall gallwch chi ei rhoi i’r rhai sydd yn ei gweld hi’n anodd prynu’r wisg ysgol gywir gan gynnwys bathodyn? Ac a fyddwch chi fel Ysgrifennydd Cabinet yn ystyried cryfhau gweithredu’r canllawiau ar wisg ysgol, er mwyn lleihau nifer y plant sydd yn wynebu bwlio o ganlyniad i hyn?”
“Fel y nododd y sefydliad Plant yng Nghymru mewn nodyn briffio: ‘Gall gwisg ysgol helpu i greu ymdeimlad o gymuned, perthyn a hunaniaeth.’ Ond i lawer o blant a phobl ifanc sy’n byw mewn tlodi, mae gwisg ysgol yn achosi straen ac yn gallu arwain at fwlio hefyd, yn enwedig pan fo costau gwisg ysgol gyda bathodyn yn gallu bod llawer uwch na gwisgoedd heb fathodyn. Rwy’n gwybod bod gan y Llywodraeth ganllawiau polisi gwisg ysgol, ond rwy’n pryderu a ydy’r polisi yn cael ei weithredu yn ddigon effeithiol, o ystyried bod nifer o blant yn wynebu stigma os nad ydyn nhw yn gwisgo’r gwisg ysgol gywir. Dyma brofiad un disgybl sydd wedi dioddef y stigma yma.”
“Yn wir, dywedodd y cyn-Weinidog addysg ym mis Mawrth eleni, yn y Siambr yma, fod Llywodraeth Cymru, ac rwy’n dyfnynnu, ‘wrthi'n diweddaru ein canllawiau statudol ar wrth-fwlio i ysgolion’. Felly, a fyddai modd i’r Ysgrifennydd Cabinet roi gwybod i ni pa gynnydd yn benodol mae’r Llywodraeth wedi ei wneud dros yr wyth mis diwethaf ar hyn, ac a allwn ni ddisgwyl canllawiau drafft wedi eu cyhoeddi cyn y Nadolig? Os na, wel, pryd, felly? Dwi eisiau ffocysu yn fyr iawn yn fy nghyfraniad i ar effaith tlodi ar lesiant pobl ifanc a’r mater hefyd o hiliaeth mewn ysgolion.”
“Diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet am y datganiad. Mae Plaid Cymru, wrth gwrs, yn cefnogi ymdrechion i leihau bwlio lle bynnag mae’n codi ei ben a gwella llesiant plant a phobl ifanc. Mi fyddwn ni yn craffu yn agos iawn ar waith y Llywodraeth yn y maes yma, gan ei fod yn faes mor eithriadol o bwysig. Os caf i droi at y datganiad yn benodol, mae’n bryder bod nifer y plant, fel ŷn ni wedi clywed yn barod, sydd wedi dioddef bwlio wedi cynyddu o 6 y cant ers 2021, ond ar y llaw arall mae’n galonogol bod llesiant meddyliol plant a phobl ifanc yn gyffredinol wedi gwella ers 2021. Ond dydyn ni ddim wedi, wrth gwrs, dychwelyd i’r lefelau isel a welon ni cyn y pandemig. Rwy’n nodi ymrwymiad yr Ysgrifennydd Cabinet i ddiweddaru’r canllawiau gwrth-fwlio, ond dyw hyn ddim yn ymrwymiad newydd gan y Llywodraeth.”
“I'm afraid the answer that I've had so far paints a different picture to the one painted by the Minister just a fortnight ago: Trinity St David's, no correspondence; Aberystwyth University, no correspondence; Swansea, no correspondence; Cardiff, no correspondence. It seems, yet again, Welsh Government Ministers are saying on the floor of the Senedd one thing, which doesn't seem to match the reality from our evidence. So, the question remains, therefore, what steps have the Welsh Government actually been taking at a ministerial and official level to develop this transformation fund and any other support packages for Welsh universities in conjunction with Welsh universities?”
“So, even before this most recent kick in the teeth for Welsh universities—having to deal with rises to national insurance contributions—Welsh universities have been on the financial brink for a while, with cumulative deficits upwards of £100 million. Now, a fortnight ago, I asked the Minister had she or the Cabinet Secretary for Education had discussions via official correspondence with individual Welsh universities regarding the transformation fund that she mentioned. Now, the Minister responded by saying, 'Yes, I have started that already'. So, I've contacted all Welsh universities directly, asking them what correspondence they've had between themselves and the Welsh Government regarding this transformation fund or any other potential support package.”
“Achos fe glywon ni yr Ysgrifennydd Cabinet dros gyllid ddoe yn dweud bod y sector cyhoeddus yn rhydd o’r taliadau yma, ond mae’r sector prifysgolion yn rhan o’r sector preifat. Felly, a allwch chi esbonio i ni a ydy staff ein prifysgolion ni yn dod o dan y sector cyhoeddus neu'r sector preifat, ac, os na fydd cefnogaeth ar gael—”
“Diolch yn fawr iawn. Dwi’n edrych ymlaen at y datganiad ynglŷn ag ydych chi’n bwriadu codi ffioedd yn yr un ffordd, a byddwn i’n hoffi clywed rhyw amserlen wrthych chi ynglŷn â phryd mae hynny yn debygol o ddigwydd, achos mae yna ansicrwydd mawr yn y sector ar hyn o bryd. Cyhoeddiad arall yng nghyllideb San Steffan yn y dyddiau diwethaf oedd y cynnydd mewn cyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr. Mae hyn hefyd yn mynd i gael effaith ariannol mawr iawn ar ein prifysgolion ni. Yr amcangyfrif yw bod hyn yn mynd i ychwanegu rhyw £20 miliwn yn fwy ar y costau. Felly, a allwch chi, Weinidog, roi eglurhad i ni ynghylch a ydych chi’n credu y gallai prifysgolion Cymru dderbyn unrhyw gymorth o dan gynlluniau’r Trysorlys a’i peidio?”
“Mae Plaid Cymru yn credu yn yr egwyddor o fynediad unifersal i’n prifysgolion ni, ond mae’n amlwg bod rhaid i ni roi ein prifysgolion ar seiliau llawer mwy cadarn cyn y gallwn ni feddwl am wneud hynny. Felly, yn sgil y cyhoeddiad, a gaf i ofyn i chi, Weinidog, a fydd Llywodraeth Cymru yn cynyddu ffioedd yn yr un modd a gyhoeddwyd yn Lloegr? Ac os ydych chi, a yw Llywodraeth Cymru yn derbyn, hyd yn oed gydag unrhyw gynnydd, y bydd prifysgolion yn dal i wynebu argyfwng ariannol heriol? Ac yn olaf, pa gamau y byddwch chi’n eu cymryd i gefnogi mynediad i addysg uwch i’r rhai sydd yn dod o gefndiroedd mwy difreintiedig?”
“Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Ddydd Llun, fe gyhoeddodd Ysgrifennydd addysg Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol y bydd myfyrwyr yn talu mwy i fynd i brifysgolion yn Lloegr y flwyddyn nesaf, gyda ffioedd dysgu yn codi i £9,535. Gan roi’r ffaith bod Keir Starmer wedi torri’i addewid ar hyn o’r neilltu am eiliad, mae’n glir y bydd hyn yn sicr o gael effaith ar brifysgolion yma yng Nghymru, yn ogystal â’n myfyrwyr. Mae’r naill a’r llall wedi'u siomi dros y degawdau diwethaf gan Lywodraethau Ceidwadol a Llafur sydd heb roi strategaeth gydlynol ar gyfer y sector yn ei lle, a chan ddiffyg cyllid, buddsoddiad a chefnogaeth, a thoriadau i ymchwil ac arloesi.”
“Ysgrifennydd Cabinet, wythnos diwethaf, gwnes i lansio strategaeth tlodi gwledig, ac un o'r argymhellion yn y strategaeth oedd bod angen inni osod ar sail statudol prawf fesur gwledig o bob polisi gan Lywodraeth Cymru. A wnewch chi gytuno i archwilio'r posibilrwydd o ddeddfu ar gyfer dyletswydd o'r fath?”
“Diolch. Fel y nododd pedwar arweinydd mewn cynghorau yn cael eu harwain gan Blaid Cymru mewn ardaloedd gwledig yn ddiweddar mewn llythyr at y Canghellor cyn y gyllideb, maen nhw'n nodi bod llawer iawn o awdurdodau lleol yn ei gweld hi'n anodd i ddarparu gwasanaethau mewn ardaloedd gwledig, yn arbennig gwasanaethau craidd fel addysg a gofal cymdeithasol. Yn ogystal, wrth gwrs, mae'n rhaid inni sylweddoli'r pwysau mawr, y straen, sydd ar gynghorwyr sir sydd yn gorfod gwneud penderfyniadau fel hyn, ac mae'r WLGA wedi cydnabod hynny yn ddiweddar. Ac mae'n rhaid inni gofio bod yna bwysau arbennig ar gynghorau mewn ardaloedd gwledig oherwydd y gost ychwanegol o ddarparu gwasanaethau, yn arbennig y gost o deithio o un man i'r llall.”
“7. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau bod awdurdodau lleol yn gallu darparu gwasanaethau mewn ardaloedd gwledig yn effeithiol? OQ61781”