Heledd Fychan
Constituency Member · Plaid Cymru · Wales
“Diolch. Os caf i, ar yr ateb gawson ni gan y Gweinidog, sef llythyr 3.6, dwi'n meddwl y buaswn i'n hoffi gwirio'r ffigurau sydd wedi'u rhoi ar Amgueddfa Cymru, oherwydd, os ydych chi'n edrych ar niferoedd y staff, maen nhw'n wahanol i'r hyn rydyn ni newydd ei glywed rŵan fel tystiolaeth o ran y lleihad sydd wedi bod yn nifer y staff.”
“Gaf i ddiolch i'r pwyllgor am eu gwaith ar hwn? Mi hoffwn i ddatgan yr oeddwn i'n gyflogedig efo Amgueddfa Cymru hyd at Ebrill 2021. Felly, er ei fod o ddim yn gyfnod hollol berthnasol, dwi'n meddwl ei bod hi'n bwysig fy mod i'n rhoi hynny ar y record, ac yn amlwg dwi'n adnabod nifer o'r unigolion yn fan hyn. Mae'n fy nhristáu i hefyd.”
“Thank you for taking an intervention. Obviously, a number of small businesses this week have been hit by devastating flooding. As we discussed yesterday, many can't get insurance by now. You mentioned resilience. What support will be made available? I heard the First Minister say on the news, in terms of support, in terms of insurance—.”
“May I thank you, Trefnydd, for including today's statement following our request on storm Bert? It is important that we have opportunities as a Senedd. May I also request that we receive regular updates and opportunities now, given that the First Minister just said about her meeting with Natural Resources Wales next week?”
“We have to also acknowledge that the storm was different, and we need to better understand why some homes and businesses were impacted so badly last time, why Pontypridd didn't suffer the same level of flooding this time, because what you outlined there is just rebuilding walls.”
“Thank you for today's statement. I'd like to associate myself with all the thanks given, but especially to those volunteers—people who are still out today, having taken time off work to support people in our communities. And thank you for acknowledging the trauma and distress of those affected. They are also angry.”
The complete record
Every one of 68 lines we hold for Heledd Fychan, in date order, each linked to its source. Free to read, in full, without an account. Page 1 of 2.
“Does yna ddim gwybodaeth yna o ran y gwaith maen nhw'n ei wneud i ddeall beth ydy effaith y toriadau ar y sector, a'r cwestiynau hynny roedden ni'n mynd ar eu hôl. Felly, jest i nodi hynny, ond dwi'n ddiolchgar am y wybodaeth sydd wedi'i darparu.”
“Diolch. Os caf i, ar yr ateb gawson ni gan y Gweinidog, sef llythyr 3.6, dwi'n meddwl y buaswn i'n hoffi gwirio'r ffigurau sydd wedi'u rhoi ar Amgueddfa Cymru, oherwydd, os ydych chi'n edrych ar niferoedd y staff, maen nhw'n wahanol i'r hyn rydyn ni newydd ei glywed rŵan fel tystiolaeth o ran y lleihad sydd wedi bod yn nifer y staff. Buaswn i hefyd yn hoffi nodi bod gennym ni'r ffigurau efo'r llyfrgell genedlaethol fan hyn o 282.3 o aelodau o staff yn 2010, i 178 erbyn rŵan. Mae hwnna'n lleihad aruthrol. Felly, dwi'n meddwl, jest o ran y record, ei bod hi'n bwysig ein bod ni'n nodi hynny. Yn amlwg, byddwn ni eisiau edrych ymhellach i mewn i hyn. A hefyd dwi'n nodi fy mod i'n siomedig o ran yr ymateb o ran amgueddfeydd lleol.”
“Thank you for taking an intervention. Obviously, a number of small businesses this week have been hit by devastating flooding. As we discussed yesterday, many can't get insurance by now. You mentioned resilience. What support will be made available? I heard the First Minister say on the news, in terms of support, in terms of insurance—. Some clarity in terms of what that support means—. Obviously, with how climate change is happening, and more extreme weather time and time again, it is our small businesses that are so vital for our high streets that are being hit. Without them, I just dread to think what the future of small businesses in towns like Pontypridd looks like.”
“Gaf i ddiolch i'r pwyllgor am eu gwaith ar hwn? Mi hoffwn i ddatgan yr oeddwn i'n gyflogedig efo Amgueddfa Cymru hyd at Ebrill 2021. Felly, er ei fod o ddim yn gyfnod hollol berthnasol, dwi'n meddwl ei bod hi'n bwysig fy mod i'n rhoi hynny ar y record, ac yn amlwg dwi'n adnabod nifer o'r unigolion yn fan hyn. Mae'n fy nhristáu i hefyd. Mae'n sefydliad rydw i'n angerddol amdano fo. Fel amlinellodd Adam Price, mae'n bwysig eithriadol i ni fel cenedl. Mae hwn yn adroddiad pwysig ac yn adlewyrchiad trist iawn o bennod difrifol iawn, nid yn unig yn hanes Amgueddfa Cymru, ond hefyd Llywodraeth Cymru. Un o'r pethau dwi'n anfodlon iawn efo fo ydy ymateb Llywodraeth Cymru, sydd mwy neu lai yn awgrymu mai bai Amgueddfa Cymru ydy'r holl broses.”
“Secondly, in terms of insurance—I've raised this, in terms of business, being an issue, time and time again. The First Minister said on the news yesterday that there would be insurance for businesses. When will that be in place? How will it be accessed? Thirdly, in terms of a flood forum, we need a Welsh flood forum. We need to support the establishment of flood action groups in every at-risk community in Wales. Where they are, they work brilliantly, providing psychological support, as well as practical advice. Will you meet with the National Flood Forum with me, and can we progress this, please?”
“We have to also acknowledge that the storm was different, and we need to better understand why some homes and businesses were impacted so badly last time, why Pontypridd didn't suffer the same level of flooding this time, because what you outlined there is just rebuilding walls. There hasn't been further investment in Pontypridd itself to make the town safer. So, we need to better understand. So, I would like to urge the Welsh Government in terms of having caution there. In terms of questions, these are the ones posed by residents: for those who were refused flood gates for both businesses and homes and told that it was a once in 100 years event, will there be funding available now, and will they receive those floodgates? If so, when?”
“Thank you for today's statement. I'd like to associate myself with all the thanks given, but especially to those volunteers—people who are still out today, having taken time off work to support people in our communities. And thank you for acknowledging the trauma and distress of those affected. They are also angry. And it's very early days; we need more analysis. I am proud, through the co-operation agreement, of the investment that we were able to make, but I am concerned. I hope, like you, that many homes and businesses were saved because of that investment, but I do think that we need to be careful. You and I both know, in terms of Clydach Terrace in Ynysybwl, there has been no investment. They weren't flooded this time.”
“In terms of regular updates, regular opportunity to discuss this, I would also like to hear from Government in terms of preparations for storms in winter. We know that more extreme weather is becoming more frequent. I asked the Deputy First Minister last week in terms of how we are preparing. We have had updates from the Welsh Government, but given how frequently these storms are happening, I believe we need further information before the recess, because we don't know what's coming over the next few weeks and months.”
“May I thank you, Trefnydd, for including today's statement following our request on storm Bert? It is important that we have opportunities as a Senedd. May I also request that we receive regular updates and opportunities now, given that the First Minister just said about her meeting with Natural Resources Wales next week? I would also like to request that the Government be very careful with the messaging around this, and I wonder if you could feed that back. To say in terms of the number of homes saved because of investment gives false hope and assurances to people. We don't know that as a matter of fact yet. Please can we be extremely careful with further storms that will be coming over winter? We need to make sure that everybody takes the steps to keep themselves safe.”
“O ystyried ffocws ein Llywodraeth ar lythrennedd, yn dilyn pryderon dybryd am lefel llythrennedd plant Cymru yn y Saesneg a'r Gymraeg—efo'r Gymraeg tua 18 mis ar ei hôl hi o'i gymharu â'r Saesneg—dwi'n siŵr y byddwch chi'n cytuno pa mor bwysig ydy'r diwydiant hwn o ran sicrhau cynnwys cyfoes a chynrychioliadol i helpu gyda hyn. Felly, gaf i ofyn sut mae Llywodraeth Cymru yn ymateb i'r pryderon, ac allwch chi gynnig unrhyw eiriau o sicrwydd i'r rhai sy'n gweithio yn y diwydiant hwn eich bod chi'n gwrando ac am weithio efo nhw i sicrhau dyfodol llewyrchus i gyhoeddi yng Nghymru?”
“Wel, fe fyddwch chi'n ymwybodol, felly, fod y grant hwnnw wedi disgyn yn sylweddol, gyda Chyngor Llyfrau Cymru'n datgan ei fod gyfwerth â gostyngiad o 40 y cant mewn termau real ers 10 mlynedd. Mae hyn wedi arwain at ostyngiad sylweddol yn nifer y llyfrau sy'n cael eu cyhoeddi yn y cyfnod hwn, gan gynnwys toriad o 34 y cant yn nifer y llyfrau Cymraeg a gafodd eu cyhoeddi gan brif gyhoeddwyr gyda chefnogaeth grantiau. Mae nifer o bobl yn gweithio yn y diwydiant cyhoeddi wedi cysylltu efo fi, yn hynod o bryderus am y sefyllfa, gyda rhagor o doriadau staff yn anochel a hefyd nifer o gyhoeddwyr, megis Y Lolfa, ddim hyd yn oed yn gwybod os gallant barhau.”
“Efallai, gyda Donald Trump bellach wedi dod unwaith eto yn Arlywydd, y byddai'n dda gwybod faint o ddylanwad sydd ganddi hi ar Donald Trump bellach, ond mae'r math yna o bethau'n pryderu pobl ym Mhontypridd a ledled Cymru. Dŷn ni eisiau Prif Weinidog fydd yn mynnu'r gorau i Gymru, fydd yn mynnu'r holl bwyntiau roeddem ni mor groch yn eu mynnu cyn yr etholiad. Ddylai o ddim gwneud gwahaniaeth i Gymru pa blaid sydd wrth y llyw yn San Steffan. Mi ddylem ni fod yn blaenoriaethu pobl Cymru a'r hyn wnaiff wahaniaeth i'n cymunedau ni.”
“Mae cymaint ohonom ni oedd yn trafod ddoe yn y Siambr hon yn ofni'n fawr, heb gael y Bil hwnnw, na welwn ni'r newid sydd ei angen yma. Mi oedd y dystiolaeth glywsom ni fel pwyllgor ar ddiwygio'r Senedd, o ran edrych ar yr elfen hon, yn hollol, hollol sicr bod y Bil hwn yn allweddol. Felly, dwi eisiau adlewyrchu pa mor siomedig ydy nifer o bobl fod y Bil hwnnw wedi diflannu yn y 100 diwrnod cyntaf. Un o'r pethau mwyaf anffodus, dwi'n meddwl—. Dŷn ni gyd wedi dweud pethau anffodus mewn cyfweliadau—dwi'n siŵr ein bod ni i gyd yn euog o hynny—ond un o'r pethau sydd wedi adlewyrchu fwyaf gennyf fi ydy'r cyfweliad gan y Prif Weinidog ar Y Byd ar Bedwar , lle cymharwyd ei dylanwad ar Keir Starmer gyda'i dylanwad ar Donald Trump.”
“Diolch yn fawr iawn am gytuno efo bob gair roeddwn i'n ei ddweud, Cefin Campbell—falch iawn o'r gefnogaeth o bell. [ Chwerthin .] O ran y blaenoriaethau hynny, dwi'n meddwl mai dim ond angen sicrhau ydym ni nad ydyn ni'n colli golwg ar y blaenoriaethau hynny. Un o'r pethau sydd wedi bod yn anffodus iawn, dwi'n credu, ydy mai un o'r pethau mwyaf nodedig sydd wedi digwydd yn y 100 diwrnod cyntaf ydy o ran rhestrau ymgeiswyr etholiadol, a'n bod ni wedi newid hynny i fod yn ganllawiau yn hytrach na Bil. Rydyn ni mor falch o weld dynes yn y rôl o fod yn Brif Weinidog, ond, fel mae WEN Wales wedi dweud yn glir, mae cael canllawiau gymaint gwannach na chael Bil. Ac roeddem ni'n gobeithio y byddai cael dwy Lywodraeth Lafur yn golygu y byddai unrhyw rwystrau o ran y Bil hwnnw yn mynd o'r neilltu, a'n bod ni'n gallu gweld newid.”
“Does dim dwywaith, petai Llywodraeth Dorïaidd yn dal i fod mewn grym ac wedi cyflwyno hyn, y byddech chi wedi bod yn unedig gyda ni yn galw i wyrdroi hynny. A dyma'r pethau mae pobl yn adlewyrchu arnyn nhw: a ydy ein Prif Weinidog ni'n gwrando, a ydy hi'n ein blaenoriaethu ni dros ei haelodaeth o blaid wleidyddol, ac a ydy ei Gweinidogion hi'n cytuno? Mi wnaeth Mick Antoniw, fel yr Aelod lleol dros Bontypridd, siarad allan yn erbyn y lwfans tanwydd gaeaf, ond, o ran pleidleisio, mae wedi bod yn wahanol iawn ers y newid a fu yn San Steffan. Felly, dyna un o'r pethau dwi'n adlewyrchu arnyn nhw. Yn amlwg, mae pethau wedi newid o gael Llywodraeth wahanol yn San Steffan— Llywodraeth Lafur yno hefyd.”
“Yn sicr, maen nhw eisiau gweld y Llywodraeth Llafur hon yn mynd ati i fod yn blaenoriaethu'r pethau y clywon nhw gymaint amdanyn nhw cyn yr etholiad cyffredinol hwnnw. Maen nhw wedi mynegi siom efo fi fod yna newid tôn wedi bod o ran y Senedd hon, dan arweiniad y Prif Weinidog, o ran mynnu rhai o'r pethau yr oedden nhw mor daer am fynnu pan oedd yna Lywodraeth o liw arall wrth y llyw. I dynnu sylw o ran y cap budd-dal dau blentyn, mae hwn yn cael effaith anferthol ar bobl yn ein cymunedau ni rŵan. Mae'n bolisi creulon. Mae hwn yn cael ei barhau gan Lywodraeth Lafur y Deyrnas Unedig. Dwi eisiau clywed ein Prif Weinidog ni yn datgan hynny, yn herio Llywodraeth y Deyrnas Unedig. O ran lwfans tanwydd gaeaf i rai pensiynwyr, mae hwn yn bryder gwirioneddol i bobl yn ein cymdeithas ni. Maen nhw eisiau i bob un ohonom ni fod yn gyfan gwbl unedig.”
“Yn ei thaith dros yr haf, mi wnaeth y Prif Weinidog ymweld â Phontypridd, sy'n rhan o fy rhanbarth i, a dwi'n gwybod ei bod hi wedi cael nifer o sgyrsiau difyr, dwi'n siŵr, a wnaeth helpu i lywio'r blaenoriaethau a glywsom ni gan Rhun ap Iorwerth yn gynharach. Rydw innau hefyd yn mynd i farchnad Pontypridd yn rheolaidd ac yn siarad â phobl. Maen nhw wrth eu bodd yn siarad am wleidyddiaeth. Mi oedd gyda nhw farn bendant iawn am nifer o bethau sydd wedi bod yn mynd ymlaen yma. Ond dwi hefyd wedi bod yn trafod efo nhw sut maen nhw'n credu mae pethau'n mynd ar ôl yr etholiad cyffredinol diwethaf a beth yw eu hadlewyrchiadau nhw ar y sefyllfa yn y Senedd hon, a'r gyllideb newydd, ac ati.”
“I'd like to hear from the Chair, in your closing remarks, how you're taking this work forward. I'm no longer on the committee. It's really important that we don't just listen, but act. We owe it to those who have given of their time to make sure that the changes outlined in this report and in these recommendations are implemented.”
“The lack of availability of childcare was something that I was really disappointed that some of the local authority representatives who spoke to us as a committee did not even acknowledge was a problem. You would have thought, hearing from them, that there was no issue here. Unless we acknowledge that there is an issue, we cannot put things right. So, I would urge the Cabinet Secretary, in her response, to focus on how we get that acknowledgement and true picture of what's happening on the ground, so that we can put that right, because if we do have very senior people in local authorities saying, 'There's not a problem', and we have people in tears telling us that they're suicidal because of the failings, something's not right and doesn't sit right with me. Thank you for the committee's work.”
“They're not home educated; they've been failed by an education system and there is no support, because it's seen as a choice by parents. It's not a choice when schools have not been able to support their child, and if they've been traumatised by school. So, what is that ongoing support going to be for them whilst we are, hopefully, making sure that any child who enters the education system from now on will be properly supported and won't be traumatised by education? What about those children who have been traumatised because they haven't received the support they require? Also, in terms of families, women are disproportionately impacted by the failings that are outlined in this report from not being able to work, and the impact, then, on the Welsh economy is profound.”
“I, myself, because of the scale of casework that I receive as a regional Member relating to disabled children and young people, and their access, or not getting access, to education and childcare, decided to conduct a survey, which I then submitted as part of this work as information. The casework is still increasing, so even though we've done this work and engaged, the issues are still out there. I also want to really highlight the problem that I think that we are going to see of those who have been traumatised by an education system that hasn't worked for them to date and have been lost from the education system, maybe at five years old or at six years old. They're currently—well, they're categorised as being home educated.”
“All of us know of the difficulties facing local authorities, the education sector and the Welsh Government, but we were told last week that austerity is over and that things are going to improve now. Obviously, there was some good news in the budget, but we need to acknowledge the scale of the issues, and I'm glad that the Chair did highlight some of those key challenges, because it is difficult to understand why some of the recommendations have been rejected by the Welsh Government. I would, again, urge, as the Chair of the committee did, in terms of recommendation 19, in terms of mandatory training—I would like to understand the Welsh Government's position on this and ask you to reconsider.”
“Honestly, we did try to make fewer recommendations; we did try to have a shorter report than this one. But the amount of evidence that we received meant that we had to include those important contributions and voices, and you only need to see, in terms of how many references there are, that we had so many written submissions as well. The visits really enriched our understanding. And when you think of some of the families, they gave of their time when they are struggling, and they gave of their time not just once, but on numerous occasions, to help advise us. My concern is what happens next, because when people give of their time so meaningfully and so honestly, they expect it to lead to change.”
“It is an honour to take part in this debate; it was an honour to be part of the committee whilst this inquiry was taking place. I'd like to pay tribute to the clerking team. I'd also like to pay tribute to all my fellow members of the committee, as well as everybody who engaged in this really important inquiry. It was moving. It was heartbreaking. It was uplifting, at times, to see some of the fantastic examples when children are properly supported and when their families are properly supported, how they thrive, how happy they are, how they go on to do brilliant things. But we have to acknowledge, when those failings are in place, how devastating those impacts can be. I know that the clerking team, all Members, as well as those who gave of their time to this inquiry, didn't take the recommendations lightly.”
“I spoke directly with residents in Ferndale House. They are fit and well, but not well enough to live at home. Many told me, directly themselves, that they feel that they wouldn't be alive now if they weren't in a care home. They'd tried being at home unsuccessfully and unfortunately that's not sustainable for them, and they're really concerned that a move from that home will kill them, that their only option will be to bedblock in a hospital, because there won't be care packages; they've had to sell their homes as well, there are no homes for them to return to. So, what conversations are you having with local authorities around this freeze now in taking cases and how that's going to be reflected in this 50-day challenge?”
“I'd like to ask you a specific question about my region, please, Cabinet Secretary. You may be aware that there is consultation in Rhondda Cynon Taf council at the moment about the potential closure of two care homes, Ferndale House and Cae Glas. I've had staff working at the Royal Glamorgan Hospital contact me concerned because there is a freeze on admissions to care homes whilst this consultation goes ahead, meaning that, because they're uncertain of the future of those, there are people who should be going to residential care homes that are currently in hospital beds. So, can I ask what discussions are taking place with local authorities in light of this announcement to ensure that consultations that are currently being held actually are reflecting the budgetary situation that we now know and won't actually worsen the situation?”
“Can I therefore ask what lessons you're taking from what's happening elsewhere to understand the potential impact here on communities in Wales, and also the assurances we can provide communities that were already devastated and concerned after 2020 but are watching the news now, knowing that they are at risk and their lives are at risk if a similar situation to storm Dennis happens, but are left asking, 'What if it's worse next time?'?”
“Thank you for your response, Deputy First Minister. You will be aware from our recent visits to Clydach Terrace in Ynysybwl of the devastating impact of the 2020 floods. Luckily, no lives were lost, but we know that, in 2020, areas such as South Wales Central suffered three and a half to four months' worth of rain due to that storm. You only have to look at what happened in Spain to see a year's worth of rainfall in such a short space of time.”
“8. Pa fesurau mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i leihau’r risg o lifogydd yng Nghanol De Cymru, gan ystyried effeithiau newid hinsawdd a llifogydd dinistriol diweddar ledled Ewrop? OQ61845”
“Diolch am yr ymateb. Yn amlwg, y pryder ydy, o ran y penderfyniad hwn gan y Canghellor, efallai ei bod hi heb gymryd i ystyriaeth beth fyddai'r oblygiadau ehangach o'r codiad hwn, oherwydd yn amlwg, mae o yn wyneb toriadau i gyllidebau hefyd. Felly, dwi'n gwybod eich bod chi'n sôn am fesur 12 mis, ond mae'r sefyllfa wedi dirywio i nifer o'r sefydliadau hyn ac maen nhw dan straen aruthrol. Gaf i ofyn, felly, os na fydd yna gefnogaeth ariannol ychwanegol ar gael iddyn nhw yn y gyllideb, beth ydy'r plan B o ran Llywodraeth Cymru? Oherwydd byddwch chi wedi clywed o'ch trafodaethau chi gyda llywodraeth leol pa mor bryderus ydyn nhw o ran y trydydd sector a'r gwasanaethau maen nhw'n eu darparu—mae cymaint o gynlluniau Llywodraeth Cymru, er enghraifft, i fynd i'r afael â thlodi ac ati, sydd mor allweddol, gan y trydydd sector hwn.”
“Oherwydd gan ein bod ni'n derbyn bod yna wahanol ddiffiniadau, beth fyddwn i'n hoffi ei wybod yn union ydy: beth fyddwch chi'n galw ar y Canghellor i'w wneud er mwyn unioni'r sefyllfa hon?”
“Diolch. Mi fydd yn hynod o fuddiol, a gobeithio eich bod chi'n gallu rhoi'r achos gerbron, oherwydd mi fyddwch chithau hefyd wedi derbyn, dwi'n siŵr, llu o gyfathrebiadau gan sefydliadau o'r trydydd sector sy'n hynod o bryderus ynglŷn â'r sefyllfa. Gwnes i sôn wythnos diwethaf am Cyngor ar Bopeth. Yn amlwg, rydyn ni hefyd wedi clywed gan hosbisau, ac mae Platfform wedi amcangyfrif cost ychwanegol o £0.25 miliwn; St John Ambulance, £50,000; Mirus, mudiad yn y sector gofal, cost ychwanegol o £1.6 miliwn. Mae un arweinydd cyngor wedi dweud wrthyf y bydd yn costio £2.5 miliwn i'r holl fudiadau trydydd sector sy'n darparu gwasanaethau i'r cyngor hwnnw. Felly, yr hyn dwi'n ei ofyn ydy: o ran y pwynt yswiriant gwladol yn benodol, beth fyddwch chi'n gofyn i'r diffiniad ONS fod?”
“Diolch, Llywydd. Ysgrifennydd Cabinet, os caf i ddychwelyd at bwyntiau roeddech chi wedi'u gwneud bach yn gynharach yn eich ymateb i Andrew R.T. Davies, jest o ran yswiriant gwladol yn benodol, roeddech chi'n sôn ynglŷn â diffiniad ONS, a bod yna bosibilrwydd o ddefnyddio'r un un ar hyn o bryd, ond yn amlwg mae yna ffigurau gwahanol iawn ynglŷn â pha ddiffiniad ONS sy'n cael ei ddefnyddio, wrth gwrs. Mae'r mesur sy'n cael ei ddefnyddio gan Stats Wales, sef y labour force survey , yn lot mwy ffafriol o ran Cymru. Gaf i ofyn, felly, pa ddiffiniad y byddwch chi'n pwyso amdano fo efo Llywodraeth y Deyrnas Unedig?”
“Sut, felly, ydych chi'n gweithio gyda’r Ysgrifenyddion Cabinet perthnasol i sicrhau nad oes yna unrhyw benderfyniadau byrbwyll, megis cau cartrefi gofal, yn digwydd nes bod y darlun cyllid yn gliriach ar gyfer y flwyddyn nesaf? Ac onid ydy hi'n bwysig, o ran sefyllfa gyllidol y gwasanaeth iechyd, fod y cartrefi hyn yn parhau ar agor fel nad ydyn ni'n rhoi mwy o bwysau ar gyllidebau amgen?”
“Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae’n fuddiol iawn gwybod eich bod chi yn cyfarfod mor rheolaidd, ac, yn amlwg, dwi'n siŵr y bydd arweinyddion llywodraeth leol wedi pwysleisio efo chi y ffaith eu bod nhw'n pryderu'n fawr ynglŷn â'u gallu nhw i ddarparu gwasanaethau gofal cymdeithasol yn benodol oherwydd yr heriau ariannol. Yn fy rhanbarth i, ac yn benodol yn Rhondda Cynon Taf, mae'r cyngor yn ymgynghori ynglŷn â chau dau gartref gofal er mwyn gwneud arbedion ar y funud: Cae Glas a Ferndale House. Mae hyn er gwaetha'r ffaith bod yna drigolion mewn gwelyau yn yr ysbytai lleol sy'n barod i gael eu rhyddhau ond yn aros am le mewn cartref gofal, weithiau am wythnosau.”
“1. Pa drafodaethau mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi eu cael gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai ynglŷn a sicrhau bod awdurdodau lleol Cymru yn derbyn cyllid digonol i barhau i ddarparu gwasanaethau? OQ61844”
“Felly, ambell i gwestiwn, ond dwi’n gobeithio eich bod chi’n deall eu bod nhw’n dod o le cadarnhaol o ran sut ydyn ni’n gweld gwaith y comisiynydd yn datblygu er mwyn cefnogi uchelgais unedig y Senedd hon o ran y Gymraeg.”
“Mi wnaethoch chi dynnu sylw hefyd at ddau adroddiad eithriadol o bwysig: un ar anghenion dysgu ychwanegol ar y cyd â’r comisiynydd plant, ac, yn ail, yr adroddiad ar addysg ôl-orfodol a’r Gymraeg. Mi wnaethoch chi sôn bod yna gamau wedi’u cymryd yn sgil y rhain. Fedrwch chi amlinellu'r rheini, os gwelwch yn dda? Dwi'n falch iawn o’r sylwadau y gwnaethoch chi o ran HSBC. Dwi’n meddwl ei fod o'n arbennig o bwysig o ran gwasanaethau ar-lein hefyd, ein bod ni’n parhau i sicrhau bod cwmnïau yn deall gwerth y Gymraeg. Un o’r pryderon sydd, efallai, o ran y toriadau sydd wedi bod yng nghyllideb y comisiynydd, ac roeddech chi'n cyfeirio at y ffaith eu bod nhw wedi ymateb yn gadarnhaol i’r heriau, ond pa asesiad ydych chi wedi ei wneud o ran effaith y toriadau cyllidol ar waith y comisiynydd, a sut mae lliniaru yr effaith hwnnw?”
“Yn amlwg, mae gwaith y comisiynydd a'i thîm yn ofnadwy o drylwyr pan fydd yna gwynion yn dod i mewn, felly, os oes yna repeat offenders, fel petai, pan fydd hi'n dod i gynghorau lleol, dwi'n meddwl ei fod o'n bwysig ein bod ni'n gweld y cynnydd sy'n cael ei wneud, yn hytrach na'n bod ni'n gweld yr un un problemau yn dod o'n blaenau ni dro ar ôl tro. Yn amlwg, mi oedd y sylwadau gan y comisiynydd yn yr adroddiad hwn ynglŷn â Bil y Gymraeg ac Addysg (Cymru) yn dweud ei bod hi'n gweld—. Wel, os ydw i'n dyfynnu fan hyn: 'Nid yw’n ormodiaeth dadlau fod hwn yn ddatblygiad hanesyddol i’r Gymraeg ym myd addysg'. Felly, gaf i ofyn sut ydych chi'n yn cydweithio â’r comisiynydd a’i thîm ar ddatblygiad y Bil?”
“Yn ddiweddar, mi oeddech chi wedi ein gwahodd ni fel Aelodau’r Senedd i fod yn llysgenhadon dros y Gymraeg yn ein cymunedau. Ydy hi’n fwriad i ofyn i bob awdurdod lleol wneud yr un peth? Oherwydd mae’n amlwg o’r adroddiad hwn, os ydych chi'n edrych ar y camau gorfodi yn benodol, fod rhai cynghorau yn methu â chydymffurfio’n flynyddol—bod yna batrwm o ran pa gynghorau sydd efallai ddim yn cyrraedd y safon. Pa waith sy’n cael ei wneud felly i sicrhau bod pob awdurdod lleol yn rhannu uchelgais y Senedd hon o ran y Gymraeg?”
“Ond mae'n rhaid inni sicrhau bod pobl yn deall bod cywiro yn gallu bod yn niweidiol ar yr adegau hynny pan fydd pobl yn ceisio'r Gymraeg sydd ganddyn nhw. Un peth roeddwn i eisiau tynnu sylw ato fo oedd ynglŷn â'r 100 o gwynion am fethiant honedig i gydymffurfio â safonau’r Gymraeg a bod 95 ohonyn nhw'n ddilys. Wrth edrych ar y gofrestr o'r camau gorfodi, mae yna 126 o gyfeiriadau at Weinidogion Llywodraeth Cymru. Yn amlwg, mae hynna dros nifer fawr o feysydd: mae'n gallu bod yn Trafnidiaeth Cymru—llu o feysydd gwahanol. Ond, ar ddiwedd y dydd, Gweinidogion Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am fonitro cynnydd a chydymffurfiaeth o ran y camau gorfodi hynny. Felly, gaf i ofyn sut ydych chi'n mynd ati i wneud hynny fel Gweinidogion? Yn bellach, wrth gwrs, mae yna sawl cyfeiriad hefyd at awdurdodau lleol yn methu â chydymffurfio.”
“Mi wnaethoch chi gyfeirio, Ysgrifennydd Cabinet, at y rhai sydd wedi profi rhywun yn ymyrryd â'u rhyddid i ddefnyddio'r Gymraeg dros y 12 mis diwethaf—18 y cant wedi nodi hynny, ond gyda hynny'n cynyddu i 29 y cant o'r rheini a holwyd rhwng 16 a 34 oed. Byddwn i'n hoffi deall yn well pa drafodaethau ydych chi wedi eu cael gyda'r comisiynydd o ran sut ydyn ni'n cael y neges yna drosodd. Rydyn ni'n sôn yn aml yn y Siambr hon fod y Gymraeg yn perthyn i bawb, ac yn sicr dwi'n cytuno'n llwyr efo'r pwyntiau a wnaethoch chi o ran dysgwyr a'r math o agweddau, a chywiro iaith—dwi'n casáu hynny'n llwyr. Wrth gwrs, mae yna rôl bwysig i gael Cymraeg cywir ar adegau—wrth gwrs bod yna—ac rydyn ni eisiau sicrhau bod yna safon i'r Gymraeg, ond i unrhyw un sy'n ceisio efo'r Gymraeg, does yna ddim byd gwaeth na chael eich cywiro—dwi'n gwybod hynny.”
“Diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet am ddod â'r ddadl hon gerbron. Hoffwn innau hefyd ategu fy niolch i i'r comisiynydd a'i thîm am y gwaith pwysig maen nhw’n ei wneud, fel sydd wedi ei grynhoi yn yr adroddiad swmpus ond darllenadwy hwn, sy'n dipyn o gamp. Mae’r gwaith yn hanfodol o ran hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg wrth inni weithio, wrth gwrs, tuag at y nod o sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 a dyblu’r defnydd, a hefyd o ran amddiffyn a hyrwyddo hawliau siaradwyr Cymraeg. Mae yna nifer o bethau cadarnhaol yn yr adroddiad hwn, ac mae yna nifer o bethau cadarnhaol wedi bod yn digwydd o ran y Gymraeg ers sefydlu’r Senedd hon. Ond wrth gwrs, mae'r adroddiad hwn unwaith eto yn dangos bod yna heriau yn parhau.”
“So, I really do have a lot of concerns in terms of what I've been hearing today about those mechanisms of support. What are they if they're not funded? Because things like Equal Power, Equal Voice, there's no certainty that those will continue, and so on. So, what are the practical steps and the financial support available to parties to put in place this guidance, so that we are able to bring them into effect?”
“You talked about being evidence led, but the evidence showed, whilst we were scrutinising the Bill, that gender quotas were absolutely necessary and the benefit they would have in terms of greater diversity in the Senedd. So, I don't understand this roll back from the Government on this, and I'm really concerned, because there are no repercussions, no penalties if parties do not implement the guidance. And I would like to know what funding is being set aside to support political parties in this endeavour. Because not every party does have big funders to support this work, and doing so on a voluntary basis, yes, we can ask people to come forward, but I saw the excitement from speaking to women, who would never have thought about standing, when they thought this Bill was coming into legislation, because they saw it as a game changer.”
“Mi wnes i godi hyn efo'r Prif Weinidog yr wythnos diwethaf, ond mae yna broblemau yn parhau o ran y rhai sydd ddim gyda'r cyllid er mwyn talu am drwsio eu tai, yn arbennig felly pan fyddan nhw mewn stad o dai lle mae yna dai cymdeithasol, neu'n rhannu to, er enghraifft, gyda thŷ sydd gan gyfrifoldeb, dywedwch, Trivallis yn fy rhanbarth i, ond sydd hefyd yn eiddo i rywun efo tŷ preifat. Mae angen eglurder ar hyn. Mae yna arian ar gael yn yr Alban, a dwi yn pryderu bod y bobl sy'n dioddef oherwydd RAAC yn cael eu hanghofio gan y Llywodraeth hon. Byddwn i yn hoffi'r cyfle i ni gael trafodaeth ar lawr y Senedd o ran beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i'w cefnogi nhw.”
“Trefnydd, hoffwn ofyn am ddau ddatganiad, os gwelwch yn dda. Yn gyntaf, hoffwn ofyn am ddatganiad gan yr Ysgrifennydd Cabinet gyda chyfrifoldeb am iechyd. Yn dilyn cyhoeddi'r datganiad ysgrifenedig ddoe ynglŷn â'r her 50 diwrnod i helpu cleifion i adael yr ysbyty ac i wella gofal cymunedol, mae yna gymaint o gwestiynau gan Aelodau ar hyn. Dwi'n meddwl y byddem ni'n hoffi'r cyfle i drafod hyn ar lawr y Senedd, yn enwedig o ystyried yr heriau rydyn ni'n eu clywed o ran awdurdodau lleol. Buaswn i hefyd yn hoffi gofyn am ddatganiad gan yr Ysgrifennydd Cabinet gyda chyfrifoldeb dros dai ynglŷn â RAAC mewn tai preifat.”
“Mae'n bwysig ein bod ni fel Senedd, lle mae cytundeb, yn parhau i gydweithio i fynnu tegwch i Gymru. Ac yn sicr, fe gaiff y Llywodraeth hon ein cefnogaeth ni ym Mhlaid Cymru o ran mynnu'r hyn sy'n ddyledus i Gymru. Gobeithiaf, felly, y gall y Senedd heddiw gefnogi ein gwelliannau ni, a gyrru neges glir i San Steffan fod y Senedd hon eisiau gweld camau pellach yn cael eu cymryd i sicrhau'r adnoddau a'r grym sydd eu hangen arnom er mwyn cyflawni i'n cymunedau.”
“Mae hyn yn rhywbeth sy'n pryderu arweinwyr llywodraeth leol hefyd yn fawr, oherwydd bod nifer o wasanaethau maen nhw'n gyfrifol amdanyn nhw'n cael eu darparu gan y trydydd sector. Mae eglurder ar hyn yn hollbwysig. Da oedd clywed ddoe gan yr Ysgrifennydd Cabinet fod y Llywodraeth hon yn parhau i gytuno â Phlaid Cymru ar yr angen i ddiwygio Barnett, am ddatganoli Ystad y Goron yn llawn i Gymru, ac am sicrhau'r arian sy'n ddyledus i Gymru o ran HS2, ynghyd â diwygiadau eraill sydd eu hangen, megis o ran benthyg. Efallai mai dim ond 14 wythnos mae Llafur wedi bod wrth y llyw yn San Steffan, ond maen nhw wedi cael 14 mlynedd fel gwrthblaid a 25 mlynedd o lywodraethu yma yng Nghymru i sicrhau bod y newidiadau hyn yn cael eu rhoi ar waith, felly rwy'n gobeithio yn fawr y gwelwn hynny'n digwydd, a hynny'n fuan.”
“Mae hyn hefyd wedi dilyn penderfyniad y Llywodraeth hon i leihau rhyddhad ardrethi busnes o 75 y cant i 40 y cant, felly mae yna double whammy yn wynebu busnesau Cymreig o ganlyniad i benderfyniadau Llafur ar ddau begwn yr M4. Mae'n angenrheidiol, felly, fod y Llywodraeth yn asesu effaith posib y codiad mewn yswiriant gwladol ar fusnesau yng Nghymru, ac yn y cyfamser yn edrych pa gefnogaeth gall y Llywodraeth hon ei chynnig yn sgil yr arian ychwanegol. Yr hyn sydd wedi dod yn amlwg hefyd ydy'r effaith ar y trydydd sector. Hoffwn pe bai'r Ysgrifennydd Cabinet, yn ei ymateb heddiw, yn gallu ateb y cwestiynau y gwnes i ac eraill eu holi ddoe ynglŷn â hyn yn benodol, ac os ydy'r Llywodraeth wedi gwneud asesiad o ran effaith hyn ar wasanaethau mae'r trydydd sector yn eu darparu yng Nghymru.”