← LEADERSHIP TERMINAL

UK PARLIAMENT · FORMER

Heledd Fychan

Constituency Member · Plaid Cymru · Wales

IN THEIR OWN WORDS

Diolch. Os caf i, ar yr ateb gawson ni gan y Gweinidog, sef llythyr 3.6, dwi'n meddwl y buaswn i'n hoffi gwirio'r ffigurau sydd wedi'u rhoi ar Amgueddfa Cymru, oherwydd, os ydych chi'n edrych ar niferoedd y staff, maen nhw'n wahanol i'r hyn rydyn ni newydd ei glywed rŵan fel tystiolaeth o ran y lleihad sydd wedi bod yn nifer y staff.

PLENARY OF 11/12/2024 · 2024-12-11 · READ THE OFFICIAL REPORT

Gaf i ddiolch i'r pwyllgor am eu gwaith ar hwn? Mi hoffwn i ddatgan yr oeddwn i'n gyflogedig efo Amgueddfa Cymru hyd at Ebrill 2021. Felly, er ei fod o ddim yn gyfnod hollol berthnasol, dwi'n meddwl ei bod hi'n bwysig fy mod i'n rhoi hynny ar y record, ac yn amlwg dwi'n adnabod nifer o'r unigolion yn fan hyn. Mae'n fy nhristáu i hefyd.

PLENARY OF 27/11/2024 · 2024-11-27 · READ THE OFFICIAL REPORT

Thank you for taking an intervention. Obviously, a number of small businesses this week have been hit by devastating flooding. As we discussed yesterday, many can't get insurance by now. You mentioned resilience. What support will be made available? I heard the First Minister say on the news, in terms of support, in terms of insurance—.

PLENARY OF 27/11/2024 · 2024-11-27 · READ THE OFFICIAL REPORT

May I thank you, Trefnydd, for including today's statement following our request on storm Bert? It is important that we have opportunities as a Senedd. May I also request that we receive regular updates and opportunities now, given that the First Minister just said about her meeting with Natural Resources Wales next week?

PLENARY OF 26/11/2024 · 2024-11-26 · READ THE OFFICIAL REPORT

We have to also acknowledge that the storm was different, and we need to better understand why some homes and businesses were impacted so badly last time, why Pontypridd didn't suffer the same level of flooding this time, because what you outlined there is just rebuilding walls.

PLENARY OF 26/11/2024 · 2024-11-26 · READ THE OFFICIAL REPORT

Thank you for today's statement. I'd like to associate myself with all the thanks given, but especially to those volunteers—people who are still out today, having taken time off work to support people in our communities. And thank you for acknowledging the trauma and distress of those affected. They are also angry.

PLENARY OF 26/11/2024 · 2024-11-26 · READ THE OFFICIAL REPORT

The complete record

Every one of 68 lines we hold for Heledd Fychan, in date order, each linked to its source. Free to read, in full, without an account. Page 2 of 2.

  1. Does dim amheuaeth chwaith bod y gyllideb a gyhoeddwyd wythnos diwethaf yn tanseilio addewidion Llafur yn ystod ymgyrch yr etholiad cyffredinol o ran trethiant, rhywbeth y cyfaddefodd y Canghellor mewn cyfweliad ar y penwythnos. Ac yn hytrach nag ymrwymo i ddiwygiadau mwy blaengar o ran trethu’r rhai mwyaf cyfoethog yn ein cymdeithas, mae Llywodraeth Keir Starmer wedi mynd ati i godi yswiriant gwladol i gyflogwyr. Mae’r syniad na fydd gweithwyr yn cael eu heffeithio gan hyn yn ffuglen llwyr. Mae’r OBR yn barod wedi amcangyfrif y bydd tyfiant mewn cyflogau a safonau byw yn cael eu niweidio dros y blynyddoedd i ddod o ganlyniad i’r mesur yma.

    PLENARY OF 06/11/2024 · 2024-11-06 · READ THE OFFICIAL REPORT

  2. Ond, wrth gwrs, mae yna bethau eraill rydym ni eisiau gweld y Llywodraeth Lafur newydd yn eu cyflawni, a dyma’n cyfle heddiw, drwy’r cynnig hwn, gyda’n gwelliannau ni, i yrru neges bendant o’r Senedd hon o ran ein disgwyliadau. Ymatebodd yr Ysgrifennydd Cabinet yn chwyrn imi ddoe pan ddywedais bod llymder yn parhau yn y gyllideb hon, er imi ddyfynnu eraill sydd o’r farn, rheini sydd ddim yn wleidyddion. Ond does dim gwadu’r ffaith bod parhau gyda’r cap dau blentyn a thynnu i ffwrdd y lwfans tanwydd gaeaf oddi ar filiynau o bensiynwyr yn barhad â llymder. Efallai nad llymder i’r un graddau â’r hyn a welwyd o dan y Torïaid, ond maen nhw’n bolisïau niweidiol sy’n effeithio ar bobl yn ein cymunedau ni.

    PLENARY OF 06/11/2024 · 2024-11-06 · READ THE OFFICIAL REPORT

  3. Hefyd, tra’n croesawu bod y Torïaid yn cefnogi safbwynt Plaid Cymru o ran cyllid HS2, ac o ran diwygio’r fformiwla Barnett, byddai yn esgeulus ohonof i beidio â thynnu sylw at y ffaith bod eu meistri yn Llundain wedi cael 14 mlynedd i newid hyn a’u bod wedi dewis peidio. Mae’n ddyddiau cynnar o ran y Llywodraeth Lafur newydd yn San Steffan, fel gwnaeth yr Ysgrifennydd Cabinet ein hatgoffa ddoe, ac, heb os, mae disgwyliadau Cymru yn uchel o ran beth fydd hyn yn ei olygu i’r Senedd hon, wedi blynyddoedd o glywed pa mor wahanol fydd pethau gyda dwy Lywodraeth Lafur mewn grym. Mae yna arwyddion cadarnhaol o ran hynny. Mae’r cyllid ychwanegol i’w groesawu, ynghyd â nifer o elfennau y cyfeiriais atyn nhw ddoe.

    PLENARY OF 06/11/2024 · 2024-11-06 · READ THE OFFICIAL REPORT

  4. Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Mae yna eironi, onid oes, fod y Ceidwadwyr wedi cyflwyno’r ddadl hon heddiw a’u bod nhw'n cwyno am gyllideb sydd yn cynnwys setliad gwell i Gymru na phe bydden nhw'n dal wrth y llyw yn Llundain. Fe gafodd eu polisïau llymder nhw effaith niweidiol a dinistriol ar gynifer yn ein cymunedau, gan normaleiddio bod pobl methu â fforddio hanfodion megis bwyd a chartref cynnes. Gwaddol o weld banciau bwyd wedi eu normaleiddio ac yn fwy niferus na McDonald's; gwaddol o dwf mewn tlodi plant; gwaddol o economi ar chwal yn dilyn cyllideb echrydus Liz Truss a sgil effeithiau Brexit.

    PLENARY OF 06/11/2024 · 2024-11-06 · READ THE OFFICIAL REPORT

  5. Mae hyn yn parhau efo'r patrwm niweidiol o elw yn cael ei sugno allan o'r system iechyd i bocedi'r sector preifat, a hefyd yn creu sefyllfa fregus iawn o ran darpariaeth. Mae'n amlwg felly fod angen rhyw fath o gynllun i warchod yn erbyn y posibilrwydd yma o golli mwy a mwy o'n GPs ni a'r meddygfeydd eithriadol o bwysig yma yn ein cymunedau ni. Rydym ni hefyd eisiau gweld mwy o gydweithredu rhyngwasanaethol er mwyn ymateb yn fwy effeithiol i gynnydd mewn galw. Gaf i ofyn, felly, wrth i'r Llywodraeth ystyried y ddeiseb hon, pa ystyriaeth sydd wedi ei roi i'r ffaith bod yna gymaint o bryderon yn cael eu mynegi? Ydy'r Llywodraeth yn derbyn bod yna greisis o ran gwasanaethau GPs? Maen nhw'n teimlo nad yw hyn yn cael ei gydnabod gan y Llywodraeth ar y funud, a dwi eisiau gweld yr eglurder hwnnw heddiw gan yr Ysgrifennydd Cabinet.

    PLENARY OF 06/11/2024 · 2024-11-06 · READ THE OFFICIAL REPORT

  6. Rhan o'r ateb ydy i adfer canran y gyllideb iechyd sy'n mynd tuag at GPs nôl i'w lefel hanesyddol o 8.7 y cant, ac mi ydym ni ym Mhlaid Cymru yn ymbil ar y Llywodraeth i ddefnyddio'r arian ychwanegol sydd wedi deillio o gyllideb y Deyrnas Unedig ar iechyd i gyflawni hyn. Ond dim ond un rhan o'r ateb ydy arian. Mae hefyd angen ystyried diwygiadau i strwythur a strategaeth yn y sector er mwyn ymdopi â'r cynnydd mewn galw sydd i ddod. Dros y blynyddoedd diwethaf, rydym ni wedi gweld tueddiad o gwmnïau mawr, yn aml wedi eu lleoli tu allan i Gymru, yn dechrau camu i mewn i'r farchnad o wasanaethau GPs, gan brynu a rhedeg amryw o feddygfeydd. Mae presenoldeb eHarleyStreet yn ardal Aneurin Bevan yn enghraifft amlwg.

    PLENARY OF 06/11/2024 · 2024-11-06 · READ THE OFFICIAL REPORT

  7. Mae'n amlwg felly bod y rhybuddion clir a chyson yma ynglŷn â phrinder darpariaeth ar draws ein cymunedau wedi syrthio ar glustiau byddar y Llywodraeth. Dwi'n sicr bod pob un ohonom ni yn y Siambr yma wedi clywed pryderon ein hetholwyr am ddiffyg argaeledd i wasanaethau meddygon teulu, yn enwedig y sawl ohonom ni sy'n cynrychioli etholaethau gwledig, er enghraifft, lle mae presenoldeb meddygfa gymunedol yn fwy o foethusrwydd prin y dyddiau yma. O ran y gweithlu, mae Cymru hefyd yn parhau i fod dros 500 meddyg teulu yn fyr o gyfartaledd yr OECD. Mae'n amlwg felly, fel y mae'r ddeiseb yn ei amlygu, fod angen i Lywodraeth Cymru fynd i'r afael â'r tanfuddsoddiad aruthrol sydd wedi digwydd yn y sector yma dros ddegawd.

    PLENARY OF 06/11/2024 · 2024-11-06 · READ THE OFFICIAL REPORT

  8. Dwi'n falch iawn bod y ddeiseb yma wedi dod o flaen y Senedd heddiw. Mae o'n tynnu sylw at fater sy'n mynd at wraidd y problemau sy'n effeithio ar ein gwasanaeth iechyd ni. Dwi wedi derbyn ymhell dros 600 o e-byst ar draws fy rhanbarth i, gan rai sydd yn gweithio yn y maes, ond hefyd gan nifer o bobl sy'n llwyr ddibynnol, ac mae'r pryder yn aruthrol. Fel mae Mabon ap Gwynfor, fel ein llefarydd iechyd, wedi sôn nifer o weithiau, mae gwasanaethau cynradd yn rhan allweddol o'r agenda ataliol, ac mae hyn yn dod yn fwyfwy amlwg dros y degawdau nesaf, o ganlyniad i'r newidiadau demograffig yn ein poblogaeth. Yn ôl yr ystadegau diweddaraf, roedd yna 372 o wasanaethau GP yng Nghymru ar ddiwedd mis Mehefin, sef 14 yn llai na phan lansiwyd ymgyrch Save Our Surgeries gan y BMA.

    PLENARY OF 06/11/2024 · 2024-11-06 · READ THE OFFICIAL REPORT

  9. So, they are a key player. So, we've seen, previously, Welsh Government support the WRU, including providing a loan in 2022. Can I ask what the expectations are in terms of that relationship, and how that relationship is progressing? I'm very glad that you'll be coming back to the Senedd. I'm sure the culture committee will also be taking a keen look at this. We need assurances that the WRU are not just listening, but progressing real change. It's not good enough that we're seeing the WRU hit the headlines once again and that people have to speak out about sexism. We need to be able to move forward and ensure that everybody that plays rugby here in Wales is respected, whichever team they are playing for.

    PLENARY OF 06/11/2024 · 2024-11-06 · READ THE OFFICIAL REPORT

  10. Looking at Jess Kavanagh’s statement, which was extremely brave as a former player, saying, 'It's a shame really because we've heard apologies over the past three and four years, and we are still hearing the same apologies today.' So, we have to question what's changed, because we're trying to encourage more participation in sport. This will put women off rugby unless the WRU show meaningful change. I would like to follow up on Hannah’s question to you, because I don't think we got that point of clarity, in terms of the Welsh Government's continued relationship with the WRU. Obviously, they are a key partner, often in terms of our international relations, for instance. They are a key partner as well, as we've seen, in terms of promoting Wales to the world, but also the economic benefits their huge matches have here in Wales.

    PLENARY OF 06/11/2024 · 2024-11-06 · READ THE OFFICIAL REPORT

  11. Diolch, Dirprwy Lywydd. May I thank you for that response? I think you've seen, over the past few years, when the WRU has, unfortunately, been in the headlines, how concerned Members of the Senedd are, and I would like to associate myself fully with Hannah Blythyn’s comment. It is sexism. This would never have happened to the men’s national team. We need to be clear on that. And I would like to associate myself with the tribute you paid to the bravery of those that have come forward, and the journalists as well, because they will be penalised for speaking out unless we call it out as well, because it is institutional sexism.

    PLENARY OF 06/11/2024 · 2024-11-06 · READ THE OFFICIAL REPORT

  12. Ond er bod yna rai pethau sy'n dangos cam i'r cyfeiriad cywir, mae'n bwysig hefyd ein bod ni, fel Senedd, yn cydnabod yr heriau sy'n parhau a hefyd yn gwneud yn glir ein siomedigaeth fod rhai pethau sylfaenol ar goll o'r gyllideb hon. Does dim gwadu bod rhai o bolisïau mwyaf creulon a niweidiol y Llywodraeth Dorïaidd flaenorol yn parhau o dan Lafur, ac felly, yn wahanol i'r hyn ddywedodd y Prif Weinidog yn gynharach, fod llymder yn parhau, er gwaethaf y newid plaid mewn grym yn San Steffan. Nid y newid felly yr oedd gymaint o bobl yng Nghymru yn ei ddeisyfu.

    PLENARY OF 05/11/2024 · 2024-11-05 · READ THE OFFICIAL REPORT

  13. Mi fuaswn i'n ddiolchgar heddiw os gallech chi amlinellu os ydych chi wedi derbyn unrhyw sicrwydd y bydd gweddill yr arian sydd ei angen yn dilyn yn y blynyddoedd i ddod, fel bod y gwaith yn gallu mynd rhagddo fel rhan o raglen estynedig. Dwi'n gwybod nad oes yn rhaid imi esbonio ichi ba mor bwysig ydy hyn, o ystyried effaith newid hinsawdd ar y tomenni hyn, fel y gwelwyd ym Mhendyrus yn dilyn storm Dennis yn 2020. Hefyd i'w groesawu wrth gwrs ydy'r arian iawndal ar gyfer y rhai wedi eu heffeithio gan y sgandal gwaed heintiedig, y sgandal Horizon a'r swyddfeydd post, ynghyd â, fel y gwnaethoch gyfeirio ato, yr anghyfiawnder ynghylch y gronfa bensiwn glowyr. Bydd y cynnydd yn y cyflog byw cenedlaethol hefyd yn hwb i nifer yma yng Nghymru.

    PLENARY OF 05/11/2024 · 2024-11-05 · READ THE OFFICIAL REPORT

  14. Gaf i ddiolch i'r Ysgrifennydd Cabinet am y datganiad heddiw? Wedi 14 mlynedd o gyllidebau niweidiol o dan y Torïaid yn San Steffan, wrth gwrs mae yna rai pethau i'w croesawu yn y gyllideb hon. Wrth gwrs, mae'r £25 miliwn tuag at y gwaith o wneud tomenni glo yn fwy diogel yn rhywbeth dwi'n gwybod rydym ni'n gytûn arno fo, Ysgrifennydd Cabinet, a ddylai fod wedi digwydd flynyddoedd lawer yn ôl, ond sydd yn gam pwysig ymlaen o ran Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn dechrau cymryd cyfrifoldeb a dyletswydd dros rywbeth y dylai Llywodraethau Llafur a Cheidwadol blaenorol fod wedi ei wneud, ymhell cyn i'r Senedd hon fodoli.

    PLENARY OF 05/11/2024 · 2024-11-05 · READ THE OFFICIAL REPORT

  15. Buaswn i'n hoffi croesawu'r datganiad ysgrifenedig ddoe gan y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol parthed yr adolygiad Undeb Rygbi Cymru o gytundebau chwarae'r merched. Dwi'n falch iawn o weld ei fod o wedi cyfarfod gydag Undeb Rygbi Cymru ar frys, a hefyd ei fod o wedi ymrwymo i fynd ati i ddeall mwy am y sefyllfa. Buaswn i'n hoffi ategu fy siomedigaeth innau fod Undeb Rygbi Cymru unwaith eto yn y penawdau am y rhesymau anghywir. Mi oeddem ni i gyd, wrth gwrs, yn gobeithio y byddai'r bennod yma drosodd o ran hanes Undeb Rygbi Cymru o ran hyn. Mae'r datganiad yn nodi ymrwymiad i'n diweddaru ni wrth i'r sefyllfa ddatblygu. Gaf i ofyn i'r diweddariad hwnnw fod ar ffurf datganiad llafar pan fo'n briodol, fel bod cyfle i drafod hyn ar lawr y Senedd?

    PLENARY OF 05/11/2024 · 2024-11-05 · READ THE OFFICIAL REPORT

  16. When this was raised in May 2024, Julie James, as then Cabinet Secretary, told us that the Welsh Government would assess the overall situation and would be calling for a four-nations approach across the UK. So, First Minister, can you confirm if any progress has been made on a four-nations approach, and are there any plans for the Welsh Government to put in place a scheme of assistance strategy, similar to the one established in Scotland, to support private home owners affected by RAAC, where they are unable to fund the remedial works themselves?

    PLENARY OF 05/11/2024 · 2024-11-05 · READ THE OFFICIAL REPORT

  17. Diolch, Prif Weinidog. I recently met with a small group of residents who are private home owners on the Gower estate in Hirwaun, where there is RAAC in the ceilings. They are mainly elderly people, all from low-income households. In order to make their homes safe, they are facing bills of thousands of pounds that they cannot pay, and due to the fact that many homes share adjoining roofs with properties owned by a housing association, they also have no choice about what type of remedial works are carried out. One family told me that the association offered to possibly buy the property back for them, but for the current market value, reduced due to the RAAC, and minus the cost of remedial works. This would essentially make them homeless and without the funds to buy another property.

    PLENARY OF 05/11/2024 · 2024-11-05 · READ THE OFFICIAL REPORT

  18. 1. A wnaiff y Prif Weinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd rhaglen adferol y Llywodraeth ar gyfer RAAC, gan gynnwys llinellau amser, statws presennol ymdrechion adfer, ac unrhyw gyllid ychwanegol a ddyrannwyd i sicrhau diogelwch yr adeiladau yr effeithir arnynt? OQ61785

    PLENARY OF 05/11/2024 · 2024-11-05 · READ THE OFFICIAL REPORT